Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu fframwaith uwchgyfeirio’r GIG Llywodraeth Llafur Cymru yn dilyn adroddiad newydd gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cadarnhaodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, fod contractau'r GIG wedi'u dyfarnu heb awdurdodiad priodol na chytundeb cyfreithiol i ysgwyddo costau, a heb ddilyn prosesau caffael y Bwrdd Iechyd ei hun. Roedd y Bwrdd Iechyd mewn 'ymyrraeth wedi'i thargedu' gan Lywodraeth Cymru ar y pryd.
Ni chafodd unrhyw aelodau o staff eu diswyddo o ganlyniad i'r canfyddiadau.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae'r adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth bellach nad yw trefniadau ymyrraeth ac uwchgyfeirio Llywodraeth Llafur Cymru yn gweithio ac nad yw Gweinidogion Llafur yn gallu cyflawni gwelliannau.
"Pan fydd sefydliadau'r GIG yn cael eu rhoi dan fesurau arbennig neu drefniadau monitro uwch, mae pobl yn disgwyl, yn ddigon teg, y bydd Gweinidogion yn mynd i’r afael â’r mater i’r fath raddau fel na allai'r pethau hyn ddigwydd. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn wir.
"Er bod y Prif Weithredwr wedi ceisio tawelu ein meddyliau ynglŷn â’r mater, mae pobl y Gogledd wedi clywed y pethau hyn o'r blaen ond yn dal i weld sgandal ar ôl sgandal, gyda'r rhai sy'n gyfrifol yn cael gadael y sefydliad heb gael eu diswyddo.
"Dydy fframwaith uwchgyfeirio’r GIG Llywodraeth Llafur Cymru ddim yn addas i'r diben. Pan fydd sefydliadau'r GIG yn methu yng Nghymru, mae angen sefydliad annibynnol sy'n rhydd o ymyrraeth wleidyddol gan Weinidogion i ddwyn penaethiaid iechyd i gyfrif, a chyflawni gwelliannau gwirioneddol i gleifion."
