Wrth sôn am y flwyddyn gyntaf ers i Eluned Morgan ddod yn Brif Weinidog, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
“Flwyddyn yn ddiweddarach a does dim byd wedi newid. Boed yn derfynau 20mya sy'n arafu Cymru neu gynlluniau Llafur i wastraffu £120 miliwn ar fwy o wleidyddion yn y Senedd, mae'r un hen broblemau yn parhau. Mae ein GIG wedi torri'n rhacs, mae ein safonau addysg wedi llithro, a'n cyflogau yw'r gwaethaf ym Mhrydain.
“Boed o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford, Vaughan Gething neu Eluned Morgan, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi rhedeg allan o syniadau, ac yn rhedeg allan o amser.
“Mae'r Prif Weinidog presennol wedi profi nad oes ganddi atebion i ddadwneud y difrod mae ei phlaid wedi'i wneud dros y 26 mlynedd diwethaf. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy'n gallu trwsio Cymru.”
