Mae’r Aelod o’r Senedd dros Glwyd, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno dull cenedlaethol cyson o ddarparu cynwysyddion ailgylchu newydd ledled Cymru.
Mae Darren yn pryderu bod trigolion mewn rhai siroedd, gan gynnwys Sir Ddinbych, yn cael eu gorfodi i dalu am focsys, biniau a bagiau ailgylchu, a allai fod wedi cael eu difrodi oherwydd traul, neu wedi cael eu chwythu i ffwrdd mewn tywydd gwael, tra bod ardaloedd awdurdodau lleol eraill yn eu rhoi yn rhad ac am ddim.
Wrth godi'r mater yn y Senedd, rhybuddiodd fod codi tâl ar drigolion mewn perygl o danseilio cyflawniadau ailgylchu a gallai atal pobl rhan cyfranogi.
Wrth alw am ddatganiad Llywodraeth Cymru gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ar gyfraddau ailgylchu Cymru, dywedodd:
"Yn amlwg, un o'r pethau rydym ni i gyd wrth ein boddau yn ei gylch yw'r ffaith fod trigolion Cymru ymhlith y goreuon drwy'r byd am ailgylchu. Ond un o'r heriau y mae llawer o bobl sy'n awyddus i ailgylchu yn eu hwynebu yw'r taliadau a ofynnir gan rai awdurdodau lleol am gynwysyddion newydd pe bai eu cynwysyddion nhw'n cael eu chwythu i ffwrdd neu pe bai eu bagiau yn cael eu chwythu i ffwrdd neu oherwydd traul gyffredinol yn unig.
"Mae hynny'n amlwg yn tanseilio ymdrechion trigolion Cymru i ailgylchu, ac rwy'n credu bod angen dull cenedlaethol arnom ni. Os gall rhai awdurdodau lleol eu darparu nhw am ddim, yna fe ddylai pob awdurdod lleol allu eu darparu nhw am ddim.
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Dwi'n falch bod y Gweinidog Cabinet yma i wrando hefyd. Ac yn sicr, dwi'n siŵr y bydd o'n awyddus i ddeall rhai o'r heriau sy'n cael eu hwynebu.
Wrth siarad y tu allan i'r cyfarfod, dywedodd Darren:
"Ni ddylai pobl sy'n gwneud pob ymdrech i ailgylchu fod ar eu colled yn ariannol oherwydd eu bod wedi colli bocs neu fag ailgylchu mewn tywydd gwael neu ei fod wedi'i ddifrodi oherwydd traul.
"Dylai'r taliadau hyn gael eu dileu a dylid darparu cynwysyddion newydd yn rhad ac am ddim ledled Cymru."
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: