Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr y DVSA (yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau) yn galw am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hir am brofion gyrru ymarferol yn y Rhyl.
Yn ei lythyr, mae Darren yn amlinellu'r problemau mae dysgwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac yn gofyn beth sy'n cael ei wneud i recriwtio mwy o arholwyr a lleihau amseroedd aros.
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd y DVSA Gynllun 7 Pwynt i leihau’r amseroedd aros am brawf gyrru, ond pwysleisiodd Darren fod wyth mis ers hynny bellach a’i fod yn dal i glywed mai ychydig o welliant sydd wedi bod, os o gwbl.
Dywedodd fod un etholwr sydd wedi cysylltu ag ef wedi dechrau dysgu gyrru yn ôl ym mis Ionawr a’i fod yn barod am brawf ers mis Ebrill ond nad yw wedi gallu cael prawf yn y Rhyl tan fis Ionawr y flwyddyn nesaf - 12 mis ar ôl ei ben-blwydd yn 17 oed.
Yn ei lythyr at y Prif Weithredwr, dywed hefyd:
"Rydw i wedi cael gwybod mai dim ond un arholwr sy’n gweithio yng Nghanolfan Brofi'r Rhyl ar hyn o bryd, a’i fod ond yn gallu cynnal saith prawf y dydd. Gan mai dyma’r sefyllfa ers peth amser, mae wedi arwain at ôl-groniad o bobl sy'n ceisio cael prawf.
"Mae'r mater hwn nid yn unig yn effeithio ar gyfleoedd cyflogaeth a gallu pobl i gael mynediad at addysg a gwasanaethau hanfodol, ond mae hefyd yn achosi cryn straen ac anghyfleustra.
"Mae hefyd yn effeithio ar Hyfforddwyr Gyrru gan nad yw darpar ddysgwyr newydd yn cofrestru ar gyfer gwersi gan eu bod yn gwybod eu bod yn annhebygol o gael prawf. Mae hefyd yn golygu bod gan yr hyfforddwyr ddisgyblion ar eu llyfrau sydd bellach yn cael gwersi bob ychydig wythnosau, gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio parhau i gael gwersi wythnosol am fisoedd wrth iddyn nhw aros am brawf ymarferol.
"Pan fydd profion ar gael, rydw i wedi cael gwybod bod y system archebu yn aml yn gadael pobl i lawr a’u bod yn colli allan ar brofion oherwydd prosesau diogelwch hirfaith i fynd i mewn i'r system, a bod y system weithiau’n rhewi.
"Er fy mod yn deall bod y DVSA wedi wynebu heriau gweithredol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, byddwn yn gwerthfawrogi eglurder ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd i recriwtio mwy o arholwyr yn y Rhyl. Oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i recriwtio neu adleoli arholwyr ychwanegol i'r ardal? Ydy'r DVSA yn adolygu cyflog ac amodau arholwyr fel rhan o strategaeth ehangach i wella cyfraddau recriwtio a chadw? Oes unrhyw fesurau interim yn cael eu hystyried i ddelio â'r ôl-groniad, fel profion ar y penwythnos?
"Mae'r gallu i yrru yn rhoi annibyniaeth i bobl, yn eu helpu i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg ac i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Felly, mae'n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i sicrhau mynediad hawdd at brofion gyrru ymarferol".
Ychwanegodd Darren:
"Gydag amseroedd aros mor hir, mae yna bryder hefyd y bydd rhaid aros misoedd i gael prawf arall os na fydd y dysgwr yn pasio'r tro cyntaf. Os nad ydyn nhw'n gallu pasio eu prawf gyrru o fewn dwy flynedd i basio eu prawf theori, yna mae ganddyn nhw'r gost a'r anghyfleustra ychwanegol o orfod sefyll y prawf hwnnw eto.
"Nid yw'r system fel y mae yn gweithio yma yn y Rhyl ac mae angen datrys y broblem ar unwaith."