Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Galw am ymyrraeth Llywodraeth Cymru i ddatrys problemau ar draeth Sandy Cove

  • Tweet
Dydd Llun, 16 Chwefror, 2026
  • Newyddion Lleol
Sandy Cove

Yn dilyn blynyddoedd o broblemau a galwadau am fuddsoddiad ar ystad ym Mae Cinmel sydd heb ei mabwysiadu, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd.

Yr wythnos diwethaf yn Siambr y Senedd, galwodd Darren ar Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, i wneud Datganiad ar ffyrdd heb eu mabwysiadu yn y Gogledd a chyfeiriodd at y problemau hirsefydlog yn Sandy Cove ym Mae Cinmel.

Mae Darren wedi bod yn galw ers blynyddoedd lawer am welliannau ar yr ystad ac wedi codi’r mater sawl gwaith gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Yr wythnos diwethaf, rhannodd ei rwystredigaeth am y diffyg gweithredu hyd yma a galwodd am "arweinyddiaeth ac ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru ".

Meddai:

“Ar sawl achlysur yn y Siambr hon rwyf wedi codi'r sefyllfa yn Sandy Cove ym Mae Cinmel, sy'n ystâd dai sylweddol iawn-dros 250 o gartrefi-heb unrhyw ffyrdd mabwysiedig yno o gwbl, dim palmentydd, yn llawn tyllau a llifogydd bob tro y daw dŵr dros wal y môr neu ar yr adegau pan fo'n arllwys y glaw.

“Mae'r sefyllfa'n annioddefol. Nid oes goleuadau priodol chwaith, o safbwynt diogelwch cymunedol. Mae hon yn saga sydd wedi parhau ers amser maith, ac erbyn hyn mae angen arweinyddiaeth ac ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i ddatrys y mater.

“A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw awydd dod â'r rhanddeiliaid hynny at ei gilydd, o'r awdurdod lleol a'r gymuned leol, er mwyn ceisio symud prosiect yn ei flaen fel y gallwn ddatrys y sefyllfa unwaith ac am byth?”

Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Rwy'n falch o ddweud bod y gronfa ffyrdd heb eu mabwysiadu wedi'i defnyddio gan gyngor Conwy i lunio ateb cychwynnol i Sandy Cove. Darparwyd y cyllid hwnnw, yn amlwg, ar y ddealltwriaeth nad oedd unrhyw rwymedigaeth bellach ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r hyn sy'n gyfrifoldeb i awdurdod lleol.

“Rwy'n fwy na hapus, fodd bynnag, i edrych i weld gyda chyd-bwyllgor corfforedig gogledd Cymru ble mae'r prosiect penodol hwn arni yn eu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, oherwydd dyna fydd y mecanwaith i sicrhau bod y cyllid ar gael i ddatrys y broblem y mae'r trigolion wedi'i hwynebu.”

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:

"Byddai uwchraddio'r ffyrdd yn Sandy Cove yn gwneud yr ystad yn lle mwy diogel, glân a deniadol i fyw. Byddai hefyd yn cael effaith enfawr ar ansawdd bywyd preswylwyr, llawer ohonyn nhw ag anableddau a phroblemau symud.

"Mae hyn wedi bod yn llusgo ymlaen ers blynyddoedd bellach ac mae angen datrysiad terfynol yn ddirfawr."

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Mae angen gweithredu ar gostau tanwydd cludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Dydd Llun, 5 Hydref, 2026
Mae Darren Millar AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gefnogi gweithredwyr cludiant rhwng y cartref a’r ysgol sy'n wynebu costau tanwydd cynyddol ledled y Gogledd.Mae marchnadoedd byd-eang wedi gweld costau tanwydd yn cynyddu o ganlyniad i ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol a sancsiyna

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree