Mae galwadau wedi cael eu gwneud ar Lywodraeth Cymru i egluro ei chynlluniau ar unwaith ar gyfer comisiynu gwasanaethau niwed gamblo, yn dilyn pryderon darparwyr rheng flaen am ddiffyg trefniadau wedi'u cadarnhau y tu hwnt i 1 Ebrill.
Wrth siarad yn Natganiad Busnes yr wythnos diwethaf yn y Senedd, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, fod yr Alban a Lloegr eisoes wedi cyhoeddi eu model comisiynu ar gyfer dyfodol gwasanaethau, a bod Cymru ar ei hôl hi.
Wrth alw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant mewn perthynas â gwasanaethau niwed gamblo, dywedodd:
"Rydyn ni’n gwybod bod cyfran o'r ardoll gamblo yn dod i Gymru er mwyn cefnogi gamblwyr problemus ac i gymryd camau a buddsoddi mewn gwaith i atal niwed gamblo. Cysylltodd Ara Recovery â mi yn ddiweddar oherwydd bod Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi ei model comisiynu ar gyfer dyfodol gwasanaethau yn yr Alban. Mae hynny'n wir hefyd yn Lloegr, o ran Llywodraeth y DU, ond mae'n ymddangos bod Cymru ar ei hôl hi.
"Does dim eglurder ynglŷn â'r hyn sy'n mynd i ddigwydd o 1 Ebrill, ac mae angen i ni wneud rhywfaint o gynnydd ar hyn, gydag amserlen glir ar gyfer penderfyniadau, cadarnhad o unrhyw drefniadau interim a rhywfaint o ymgysylltiad ystyrlon ag Ara a'r rhanddeiliaid eraill."
Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd wrth Darren y byddai'n codi'r mater gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Darren:
"Mae gamblo gormodol yn risg iechyd y cyhoedd sy'n difetha bywydau gamblwyr a'u hanwyliaid, felly mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai yr effeithir arnyn nhw, tra hefyd yn atal ein plant a'n pobl ifanc rhag cael eu denu i gamblo. Mae oedi Llywodraeth Cymru yn annerbyniol ac mae'n rhaid i Weinidogion roi'r gorau i lusgo eu sodlau."
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: