
Yn sgil y gwahaniaethau yn y gefnogaeth y mae gofalwyr ifanc ledled Cymru yn ei chael yn yr ysgol, mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau’r un chwarae teg i bawb.
Yr wythnos hon yn y Senedd, mynychodd Darren ddigwyddiad Cyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth y Gofalwyr i nodi Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc (12 Mawrth) ac i gwrdd â gofalwyr ifanc o bob cwr o Gymru, gan gynnwys Albie Sutton, disgybl yn Ysgol Emrys ap Iwan.
Yn ddiweddarach yn y dydd, wrth siarad yn y Datganiad Busnes, cyfeiriodd at yr hyn yr oedd gofalwyr ifanc wedi’i ddweud wrtho am y gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn yn yr ysgol a galwodd ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob gofalwr ifanc yng Nghymru yn derbyn yr un lefel o gefnogaeth.
Wrth ofyn am Ddatganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr ifanc mewn ysgolion, dywedodd:
“Roeddwn i’n bresennol yn y digwyddiad ar gyfer gofalwyr ifanc, fel roedd Aelodau eraill yn gynharach y prynhawn yma, ac roedd y ffordd yr oedden nhw’n eiriol drostyn nhw eu hunain a’u hanghenion yn gwneud argraff fawr arnaf i.
“Ond un o’r heriau yr oedd rhai ohonyn nhw’n eu codi gyda ni oedd yr anghysondeb o ran y dulliau sydd gan rai ysgolion o ddarparu cefnogaeth sylweddol i ofalwyr ifanc, ac nad yw eraill yn gwneud hynny. Ac rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio arno i ryw raddau yma, yn Aelodau’r Senedd, er mwyn dileu’r gwahaniaethau hynny a sicrhau chwarae teg ym mhob cwr o Gymru.
Wrth ymateb, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt, â Darren, gan ddweud, “mae’n rhaid i ni sicrhau bod arfer da yn bresennol ym mhob un o’n hysgolion ni.”
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
“Rwy’n croesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n bwysig gwneud yn ogystal â dweud. Heb y gefnogaeth gywir, gall gofalu effeithio’n negyddol ar gyrhaeddiad addysgol gofalwyr ifanc, ac yn yr hirdymor gall effeithio ar eu cyfleoedd cyflogaeth a’u diogelwch ariannol. Felly, mae’n hanfodol ein bod ni’n rhoi’r holl help a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.”
Dywedodd Albie, sy’n gofalu am ei fam sydd â sawl anabledd:
“Mae’n rhaid i mi goginio cinio iddi hi a ‘nheulu bob nos, ei helpu i wisgo, ei helpu i gerdded o gwmpas y tŷ, glanhau’r gegin a thacluso’r tŷ bob penwythnos – a dim ond rhai o’m cyfrifoldebau fel gofalwr ifanc fy mam ydy’r rheina.
“Oherwydd fy mod ym Mlwyddyn 11, dwi’n trio gwneud fy ngorau i astudio a pharatoi ar gyfer fy arholiadau TGAU yn yr haf. Mae’n gynyddol anodd cydbwyso hynny â’m rôl ofal, a’r ymrwymiadau allgyrsiol eraill sydd gen i.
“Dwi’n gresynu dweud hynny, ond gall bod yn ofalwr ifanc wneud bywyd yn ddigon diflas. Mae fy rôl ofal yn aml yn cymryd y rhan fwyaf o’m hamser rhydd, neu bob eiliad ohono.
“Mae’n rhaid i ofalwyr ifanc hefyd roi eu hiechyd meddwl eu hunain o’r neilltu i ganolbwyntio ar les eu hanwylyd, a all fod yn niweidiol i’w hiechyd emosiynol personol.
“Ac ar ben hynny, ychydig iawn o gymorth ariannol sy’n cael ei roi tuag at ofalwyr ifanc, ac rydyn ni ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn tlodi na’n cyfoedion sydd ddim yn ofalwyr. Dwi’n gobeithio na fydd hyn yn wir yn y dyfodol, ac y bydd mwy o gydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i ofalwyr ifanc ymhob cwr o Gymru ac y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r cymorth angenrheidiol sydd ei angen arnom.”