
Ac yntau’n rhwystredig nad oes gan lawer o drigolion ledled Cymru fynediad at fand eang da a dibynadwy o hyd, mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi gwneud galwadau newydd i adfer cynllun Allwedd Band Eang Cymru.
Cafodd cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru - sy’n darparu cymorth grant i ddatrysiadau band eang amgen sy’n gallu darparu cyflymderau lawrlwytho cyflym iawn a sefydlog - ei oedi o 7 Awst am gyfnod o chwe mis.
Ym mis Hydref y llynedd, holodd Darren Lywodraeth Cymru pam fod y cynllun yn cael ei oedi ac anogodd Gweinidogion i ystyried ei adfer cyn gynted â phosibl.
Mae’n siomedig felly nad oes unrhyw symudiad wedi bod ar hyn.
Gan alw eto am ei gyflwyno yn y Datganiad Busnes ddoe yn y Senedd, dywedodd:
“A gaf i alw am ddiweddariad oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar gynllun Allwedd Band Eang Cymru?
“Mae’r Aelodau yn siŵr o fod yn ymwybodol bod y cynllun hwn wedi cael ei ohirio ym mis Awst y llynedd, ond roedd hwnnw’n bwysig iawn o ran cynorthwyo llawer o’n hetholwyr ni i fynd ar-lein a sicrhau bod gwasanaethau band eang addas ar gael yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru lle nad oedd cynlluniau Openreach yn gallu ymestyn iddyn nhw.
“Ac yn fy marn i, o ystyried bod y gohirio wedi parhau am saith mis erbyn hyn, heb unrhyw ymgeiswyr newydd yn ymgyflwyno, mae hi’n hen bryd i ni fod â’r wybodaeth ddiweddaraf i sicrhau bod y cynllun pwysig hwn ar gael nawr i helpu ein hetholwyr i fynd ar-lein unwaith eto a bod â mynediad at wasanaethau band eang cyflym.”
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt, y byddai’n gwneud datganiad ar gynhwysiant digidol cyn bo hir ac y byddai’n ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan Darren bryd hynny.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
“Mae’n rhwystredig iawn nad yw’r cynllun hwn wedi’i adfer o hyd, yn enwedig gydag etholwyr yn dweud wrthai’n gyson eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyflymder band eang priodol i fynd ar-lein.
“Mae’r seilwaith digidol yn trawsnewid ein ffordd o fyw a’r ffordd rydyn ni’n gwneud busnes - allwn ni ddim fforddio gadael i Gymru golli tir.”