Gydag adroddiad newydd yr wythnos hon yn dangos bod costau gofal plant uchel yng Nghymru yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi ac allan o waith, mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod o’r Senedd Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw eto ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo rhieni sy'n gweithio gyda chostau gofal plant.
Yn y Senedd ym mis Mai, dywedodd Darren wrth y Prif Weinidog fod rhieni gweithgar o Gymru yn symud dros y ffin i Loegr yn fwriadol lle gallant gael cymorth gofal plant rhad am ddim i fabanod o naw mis oed, ac anogodd ei llywodraeth i wella'r cynnig gofal plant yma yng Nghymru.
Yr wythnos hon, cadarnhaodd adroddiad gan Sefydliad Bevan fod costau gofal plant uchel yng Nghymru yn parhau'n boen meddwl mawr i rieni. Dywedodd fod cost gynyddol gofal plant yng Nghymru y tu hwnt i gyrraedd llawer, gyda rhai teuluoedd bellach yn cyfyngu ar faint o blant maen nhw'n eu cael oherwydd costau byw.
Felly, mae Darren unwaith eto yn erfyn ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddilyn esiampl Lloegr a gwella'r cynnig gofal plant yng Nghymru.
Meddai:
“Mae costau gofal plant yng Nghymru wedi dod yn ormod o faich ariannol i sawl teulu.
“Fel y dywedais wrth y Prif Weinidog nôl ym mis Mai, roedd ymchwil gan Coram Family and Childcare yn dangos bod rhiant plentyn dan ddyflwydd oed yng Nghymru yn gwario £4,400 yn fwy y flwyddyn ar gyfartaledd i anfon eu plentyn i feithrinfa yn rhan-amser, o gymharu â rhieni yn Lloegr. Mae hynny £1,700 yn fwy y flwyddyn na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban. Hyn oherwydd bod rhieni yng Nghymru yn cael llai o gymorth gyda chostau gofal plant nag unrhyw le arall ym Mhrydain.
“Nid yw'n syndod bod cymaint o deuluoedd yn dewis symud dros y ffin i Loegr.
“I lawer o rieni yng Nghymru, nid yw'n gwneud synnwyr ariannol iddyn nhw fynd i'r gwaith, sy'n golygu bod llai yn cyfrannu at y gweithlu. Mae hyn yn bryder mawr ac yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i'w unioni ar unwaith.”
Ychwanegodd:
“Derbyniodd Llywodraeth Cymru £140 miliwn gan Lywodraeth y DU i'w galluogi i ymestyn eu cynnig a sicrhau ei fod o leiaf yn gyfartal â'r cynnig yn Lloegr, ond methu wnaethon nhw, ac felly mae'n anodd i rieni gael dau ben llinyn ynghyd.
“Mae'n bechod bod rhieni yng Nghymru mewn sefyllfa waeth na rhannau eraill o'r DU ond yn wynebu'r costau gofal plant uchaf. Bydd Llywodraeth Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi mwy o gymorth i rieni sy'n gweithio'n galed fel rhan o'n cynlluniau i drwsio Cymru."