Mae Y Byd ar Bedwar wedi datgelu bod bron i 89,000 o gleifion wedi cael eu trin mewn coridorau neu mewn amgylcheddau anghlinigol eraill yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr rhwng 2022 a diwedd mis Hydref 2025.
Ar gyfartaledd, cafodd cleifion ofal mewn coridorau am bron i 10 awr yn Ysbyty Glan Clwyd y llynedd – y cyfartaledd hiraf o holl ysbytai’r gogledd. Ond y cyfnod hiraf lle bu claf yn aros mewn coridor oedd yn Ysbyty Gwynedd, yn 2024, a hynny am dros bum diwrnod.
Meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae gofal mewn coridor yn arfer annerbyniol ac yn rhoi cleifion mewn perygl o niwed.
"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig ers blynyddoedd ond mae ei berfformiad yn yr Adran Achosion Brys wedi gwaethygu, ac mae gofal mewn coridor wedi dod yn norm.
"Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar gleifion.
"Mae'n bryd datgan argyfwng iechyd ledled Cymru fel y gallwn gynyddu nifer y gwelyau, rhoi terfyn ar ofal mewn coridorau, atal ambiwlansys rhag pentyrru y tu allan i'n hysbytai, ac atal marwolaethau a niwed diangen i gleifion."
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Peter Fox AS:
"Ledled Cymru rydyn ni’n gweld canlyniadau penderfyniadau a wnaed gan y blaid Lafur a Phlaid: mae rhestrau aros yn cynyddu, mae gofal brys yn dirywio, ac mae gofal mewn coridorau yn dod yn symbol llym o system dan straen.
"Ar ôl 27 mlynedd o Lafur yn rhedeg GIG Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, dydy’r esgusodion bellach ddim yn ddigon da. Ddylem ni ddim fod yn gweld cleifion yn cael eu trin mewn coridorau ysbytai.
"Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir a chredadwy i adfer perfformiad, lleihau amseroedd aros a darparu'r gofal amserol y mae pobl ledled Cymru yn ei haeddu."