Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn annog unigolion a sefydliadau yn sir Conwy i gymryd rhan mewn ymchwil i gyflwr presennol trafnidiaeth gymunedol yn ardal yr awdurdod lleol.
Fel rhan o'u prosiect meithrin gallu parhaus, mae CVSC (Cymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy) wedi comisiynu Deio Jones i ymgysylltu â chymunedau lleol gyda'r nod o gael gwell dealltwriaeth o'r angen am drafnidiaeth gymunedol yn y sir, dysgu o fentrau trafnidiaeth gymunedol blaenorol ac archwilio atebion posibl ar gyfer y dyfodol.
Wrth annog pobl i gymryd rhan, dywedodd Darren:
"Mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn darparu gwasanaethau amhrisiadwy i lawer o drigolion gwledig a phobl hŷn, a fyddai wedi’u hynysu fel arall.
"Mae’r ddarpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol ymhell o fod yn ddelfrydol ar hyn o bryd, ac rwy'n falch bod hyn yn cael ei ystyried gyda'r bwriad o wella gwasanaethau ar draws y sir.
"Er mwyn i CVSC gael y darlun mwyaf cywir o'r sefyllfa bresennol, mae'n bwysig bod pobl yn cymryd rhan yn yr ymchwil hon ac yn mynegi eu barn. Dim ond os oes gan y rhai sy'n gweithredu gwasanaethau ddarlun cliriach o'r dirwedd bresennol a chyfleoedd yn y dyfodol y mae modd gwella’r gwasanaethau hynny.
"Mae trafnidiaeth gymunedol well yn arwain at fywydau llawnach a chyfle cyfartal i bawb, felly mae'n bwysig ein bod yn helpu i wneud iddo ddigwydd trwy gymryd rhan yn yr ymchwil hon."
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at y prosiect ymchwil e-bostio [email protected]