Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Gofyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru edrych ar gostau gofal gormodol ar gyfer plentyn yn Sir Ddinbych

  • Tweet
Dydd Sul, 20 Gorffennaf, 2025
  • Newyddion Lleol
Auditor General for Wales asked to look into Extortionate Care Costs for Denbighshire Child

Yn dilyn datgeliad yr wythnos hon fod Cyngor Sir Ddinbych yn talu bron i £2m y flwyddyn ar gostau gofal i un plentyn, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i ymchwilio i'r mater.

Yng nghyfarfod llawn Cyngor Sir Ddinbych yr wythnos diwethaf, datgelodd y Prif Weithredwr Graham Boase fod un plentyn a ddaeth i ofal y cyngor yn ddiweddar yn costio £35,000 yr wythnos i'r awdurdod; ers hynny, mae'r cyngor wedi cadarnhau mai’r gost wirioneddol yw £37,500 yr wythnos.

Ers cyhoeddi adroddiadau yn y cyfryngau sy'n tynnu sylw at y gwariant gormodol, mae trigolion wedi cysylltu â Darren i fynegi eu pryder bod cymaint yn cael ei wario ar un achos, yn enwedig pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri.

Felly, mae wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, yn ei annog i ymchwilio i'r mater.

Mae ei lythyr yn nodi:

"Mae'r wybodaeth yn yr erthygl yn awgrymu bod costau gofal i blentyn y mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol amdano yn dod i bron i £2m y flwyddyn.

"Ers cyhoeddi'r erthygl, mae nifer o etholwyr pryderus wedi cysylltu â mi sy'n teimlo na ellir cyfiawnhau costau o'r fath a bod angen ymchwiliad allanol.

"O ystyried yr uchod, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi ystyried cynnal adolygiad o'r gwariant hwn i benderfynu a yw'n cynrychioli gwerth am arian i drethdalwyr Cymru."

Meddai Darren:

"Rydyn ni'n gweld gwasanaethau yn Sir Ddinbych yn cael eu torri ym mhobman, felly nid wy’n synnu bod y gwariant syfrdanol hwn ar un plentyn yn unig yn drysu trigolion.

"Er fy mod i’n gwerthfawrogi bod yna blant ag anghenion arbennig iawn sy'n gofyn am ofal 24/7, ac nid wyf yn dweud na ddylen nhw fod yn cael yr help hwn, pan fyddwch chi'n sôn am ffigurau sy’n dod i bron i £2m y flwyddyn, mae gan bobl yr hawl i fod eisiau gwybod pam ei fod yn costio cymaint.

"Rwyf felly wedi gofyn i'r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio i'r mater a gobeithio y gall roi'r atebion i'n cwestiynau.

"Mae hwn yn swm llawer rhy uchel ac, o ystyried trafferthion ariannol y cyngor, sydd wedi arwain at dorri gwasanaethau hanfodol, mae'n iawn i ni gael tryloywder llwyr ynglŷn â'r gwariant hwn.

"Edrychaf ymlaen at gael ymateb gan yr Archwilydd Cyffredinol."

 

 

You may also be interested in

Calls to end "unacceptable" corridor care as pressure grows on the Welsh NHS

Calls to end "unacceptable" corridor care as pressure grows on the Welsh NHS

Dydd Llun, 16 Mawrth, 2026
Y Byd ar Bedwar has revealed that almost 89,000 patients have been treated in corridors or in other non-clinical environments at Betsi Cadwaladr Health Board hospitals from 2022 to the end of October 2025.On average, patients received care in corridors for almost 10 hours at Ysbyty Glan Clwyd last y

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree