Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chapasiti gwelyau yn y GIG yng Nghymru.
Gan siarad yn y Datganiad Busnes ddoe, tynnodd Darren sylw at y gostyngiad dramatig yn nifer y gwelyau mewn ysbytai ledled Cymru ers 1997 a gofynnodd beth sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau'r capasiti gwelyau priodol i ateb y galw.
Meddai:
“A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, Drefnydd, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran capasiti gwelyau yn GIG Cymru?
“Yn ôl ym 1997, roedd yna 15,500 o welyau ar gael i'r GIG eu defnyddio. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw draean yn llai, sef llai na 10,500. Nid yw hi'n syndod fod problem gennym ni yn ein hadrannau brys ac yn ein hysbytai wrth i chi edrych ar y ffigurau hynny.
“Fe hoffwn i wybod beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau y bydd gennym ni nifer priodol o welyau ar gael i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru, yn enwedig o ystyried ein bod wedi gweld y boblogaeth yn tyfu a bod y boblogaeth hŷn, yn arbennig felly, wedi tyfu yn sylweddol yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”
Yn ei hymateb, dywedodd Rheolwr Busnes Llywodraeth Cymru:
“Mae'n rhaid i ni fyfyrio ar y ffordd newidiol yr ydym ni'n cyflawni ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau nad oes raid i bobl fynd i'r ysbyty oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol, a bod yr arosiadau hynny'n gyfyngedig i'r amser y mae angen y driniaeth honno arnyn nhw.”
Yn siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
"Fel y datgelwyd gan raglen ddiweddar Y Byd ar Bedwar, cafodd bron i 89,000 o gleifion eu trin mewn coridorau neu ardaloedd anghlinigol eraill yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr rhwng 2022 a Hydref 2025. Mae hyn yn gwbl gywilyddus ac ni fyddai'n digwydd pe bai digon o welyau.
"Mae cleifion ledled Cymru yn cael eu methu bob dydd, ond mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod cyfaddef bod yna broblem.
"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn mynd i'r afael â'r mater yn uniongyrchol drwy ddatgan argyfwng iechyd i gynyddu’r capasiti gwelyau, rhoi terfyn ar y sgandal o ofal mewn coridorau, ac atal cleifion rhag marw'n ddiangen mewn coridorau a chypyrddau yn ein hysbytai ledled Cymru."
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: