
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a’r Aelod o'r Senedd dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych i godi pryderon am effaith diffyg £72 miliwn yng nghyllid Yswiriant Gwladol cyflogwyr (YG) ar gyllidebau'r cyngor.
Mae'r diffyg yn dilyn penderfyniad y Canghellor Llafur Rachel Reeves i gynyddu cyfraniadau YG cyflogwyr heb drosglwyddo cyllid llawn i awdurdodau lleol.
Mae'r cynnydd mewn YG yn golygu bod yn rhaid i gyflogwyr nawr dalu mwy i gyflogi staff - boed yn fusnesau bach neu’n gyrff mawr yn y sector cyhoeddus fel cynghorau lleol. Ar y pryd, rhoddodd Ysgrifennydd Cyllid Llafur, Mark Drakeford, sicrwydd y byddai Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol i dalu'r costau uwch hyn yn y sector cyhoeddus. Ym mis Tachwedd, dywedodd:
"Mae'r Trysorlys wedi dweud heddiw y bydd cyllid ychwanegol i weithwyr y sector cyhoeddus i dalu costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr... bydd yn darparu cyllid llawn i ddelio â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr dan yr amgylchiadau hynny."
Fodd bynnag, yn gynharach yr wythnos hon, datgelodd Mr Drakeford na fyddai Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, yn trosglwyddo'r cyllid llawn - gan adael diffyg o £72 miliwn ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Gan gyfeirio at y mater, dywedodd Darren:
"Rhoddodd Mark Drakeford sicrwydd i ni na fyddai'r codiadau treth hyn yn cael eu hysgwyddo gan y sector cyhoeddus, felly roedd newyddion yr wythnos diwethaf yn siom mawr.
"Bydd awdurdodau lleol nawr yn wynebu dewis anodd: naill ai torri gwasanaethau hanfodol neu godi'r dreth gyngor i dalu'r costau ychwanegol.
"Rydw i wedi ysgrifennu at Brif Weithredwyr Cynghorau Sir Conwy a Sir Ddinbych i ofyn pa effaith y bydd y bwlch cyllid hwn yn ei chael ar allu'r cyngor i gynnal gwasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol, casglu biniau, a chynnal a chadw ffyrdd.
"Rwy’n poeni y bydd y ddau awdurdod lleol yn cael eu gorfodi i wneud toriadau pellach, heb y gefnogaeth hon. Mae'r sefyllfa hon wedi codi'n gyfan gwbl oherwydd Treth Swyddi Llafur a phenderfyniad gan y Trysorlys sy'n methu Cymru unwaith eto."
"Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, dylai'r Prif Weinidog ymddiheuro i bobl Cymru am gefnogi'r dreth swyddi, ac am y bil trwm y bydd yn rhaid i drethdalwyr Cymru nawr ei dalu o ganlyniad i'w methiant i ddarparu'r cyllid sydd ei angen ar Gymru."