Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Herio Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ysgolion

  • Tweet
Dydd Iau, 11 Rhagfyr, 2025
  • Newyddion Lleol
Welsh Government challenged to increase school funding

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi herio'r Ysgrifennydd Addysg ynghylch y setliad ariannol gwael ar gyfer cyllidebau ysgolion.

Yn Siambr y Senedd ddoe, roedd Darren yn feirniadol o'r swm a ddyrannwyd, a dywedodd nad yw'n ddigon i alluogi ysgolion i "ddarparu'r addysg o ansawdd uchel y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu".

Wrth annerch Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, dywedodd:

"Rwyf innau hefyd yn rhannu pryderon undeb y penaethiaid, a phawb arall sy'n gysylltiedig â'r sector addysg yn wir ynghylch y setliad gwael iawn a sicrhawyd ar gyfer cyllidebau ysgolion gogyfer â'r flwyddyn nesaf.

“Rydym eisoes yn gwybod bod yn rhaid i bobl ifanc yn ein gwlad ymdopi â'r canlyniadau addysgol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, ac mai Cymru yw'r unig wlad sydd yn hanner isaf y tablau cynghrair rhyngwladol a gynhyrchir ac a gyhoeddir gan y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr.

“Mae'n warthus fod gennym bobl ifanc a staff yn gorfod gweithio mewn ystafelloedd dosbarth gwael, ac mae'r gweithlu addysgu, wrth gwrs, yn brin o forâl am ei fod o dan ormod o bwysau a heb ddigon o adnoddau.

“Mae angen inni sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf, dyfodol ein gwlad, a dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd yr ysgolion ar y rheng flaen. Rwyf wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw.

“Nid yw'n rhoi unrhyw hyder i mi y bydd ysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt i ddarparu'r addysg o ansawdd uchel y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu.”

Ychwanegodd:

"Rwyf wedi bod yno, fel cadeirydd y pwyllgor cyllid mewn ysgol uwchradd, ac wedi gweld pa mor anodd yw ceisio rheoli cyllideb ysgol gyda'r adnoddau y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn eu darparu.

“Mae angen i ni flaenoriaethu'r rhain. Rydym yn dibynnu arnoch chi a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cyfle.”

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Mae angen gweithredu ar gostau tanwydd cludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Dydd Llun, 5 Hydref, 2026
Mae Darren Millar AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gefnogi gweithredwyr cludiant rhwng y cartref a’r ysgol sy'n wynebu costau tanwydd cynyddol ledled y Gogledd.Mae marchnadoedd byd-eang wedi gweld costau tanwydd yn cynyddu o ganlyniad i ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol a sancsiyna

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree