Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Isafswm prisiau alcohol yn glec ym mhocedi teuluoedd

  • Tweet
  • Share
Dydd Mawrth, 6 Hydref, 2026
  • Newyddion Lleol
DM

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Prif Weinidog Plaid Cymru o daro teuluoedd gweithgar yn y boced drwy godi isafswm pris uned o alcohol 30%.

O 1 Hydref 2026, cynyddodd isafswm pris uned o alcohol o 50c i 65c, gan arwain at drigolion yn rhannu cymariaethau costau diodydd alcoholig yng Nghymru a Lloegr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai bwriad y polisi yw lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Plaid Cymru o gynyddu'r pwysau costau byw i yfwyr cymedrol.

Meddai Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:

"Does neb yn dadlau bod camddefnyddio alcohol yn gallu achosi niwed enfawr, ond nid yw codi cost alcohol i bawb yn cyflawni dim. Nid yw codi pris alcohol yn trin dibyniaeth ac mae tystiolaeth yn dangos y gall llawer o yfwyr risg uchel gael trafferth gyda chostau uwch, ond eu bod yn parhau i yfed.

"Mae cynyddu isafswm cost alcohol 30% ar adeg pan mae llawer o deuluoedd dan straen yn cosbi'r mwyafrif helaeth sy'n yfed yn gymdeithasol ac yn gyfrifol.

"Mae siopwyr mewn ardaloedd ar y ffin bellach yn teithio i Loegr i osgoi prisiau uwch yng Nghymru, sy'n achosi i fanwerthwyr yma golli allan.

"Os yw Llywodraeth Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, dylem wneud yn siŵr bod pobl sy'n ddibynnol ar alcohol yn gallu cael mynediad at driniaeth effeithiol a gwasanaethau adsefydlu amserol."

Ychwanegodd:

"Mae angen i ni dyfu'r economi, lleihau’r bil lles a chael pobl yn ôl i weithio fel modd o greu cymdeithas fwy ffyniannus a'i gwneud hi'n llai tebygol y bydd pobl yn troi at gamddefnyddio alcohol. Nid codi prisiau a chosbi teuluoedd sy'n gweithio'n galed yw'r ateb." 

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Cynlluniau Parc Cenedlaethol wedi'u rhoi o’r neilltu

Dydd Iau, 15 Hydref, 2026
Yn y Senedd yr wythnos hon, croesawodd AS Clwyd, Darren Millar, y penderfyniad i oedi cynlluniau ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yn y Gogledd-ddwyrain.Roedd Darren wedi cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddweud y dylai unrhyw barc cenedlaeth

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree