Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Glwyd

Main navigation

  • Home
  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
  • Campaigns

Llawer yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus lle mynegwyd pryderon ynghylch cais cynllunio chwarel

  • Tweet
Dydd Gwener, 25 Gorffennaf, 2025
  • Newyddion Lleol
Llawer yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus lle mynegwyd pryderon ynghylch cais cynllunio chwarel
Llawer yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus lle mynegwyd pryderon ynghylch cais cynllunio chwarel

Roedd llawer o bobl yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf i drafod pryderon am effaith busnes trosglwyddo gwastraff sy'n gweithredu yn Chwarel Plas Gwilym, Hen Golwyn, er iddo gael ei drefnu ar fyr rybudd.

Cynhaliodd AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, y cyfarfod ar ôl i gais cynllunio gael ei gyflwyno i ymestyn yr ardal weithredu o fewn y safle. Ers hynny, mae wedi cyflwyno ymateb i'r cais yn amlinellu pryderon trigolion, ac roedd yn falch bod cymaint wedi dod i'r cyfarfod ddydd Gwener diwethaf yn Eglwys yr Ŵyl, Hen Golwyn, i roi eu barn i’r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a gweithredwr y safle Jennings, y ddau wedi’u cynrychioli yn y cyfarfod.

Mae trigolion yn Craig Road, Llysfaen Road, Miners Lane, Peulwys Lane a'r ardaloedd cyfagos wedi bod yn codi cwynion ers misoedd am effaith llwch, sŵn a thraffig i'r safle ac oddi yno, ac wedi mynegi pryderon y gallai pethau waethygu pe bai'r gweithrediadau'n cael eu hymestyn.

Wrth wneud sylwadau ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:

"Cafodd y cyfarfod hwn ei alw ar fyr rybudd, felly roeddwn i'n falch o weld cymaint o bobl yn bresennol. Mae'n dangos cryfder y teimlad am y gweithrediadau presennol a’r cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol.

"Roeddwn i'n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i gwrdd â gweithredwr y safle ac asiantaethau rheoleiddio ychydig wythnosau yn ôl i drafod pryderon lleol, ac roeddwn i’n falch iawn eu bod hefyd wedi gallu mynychu'r cyfarfod ddydd Gwener diwethaf i glywed yn uniongyrchol gan drigolion ac ateb eu cwestiynau.

"Er y cydnabyddir bod y gweithredwyr yn cymryd camau i liniaru'r effaith uniongyrchol, mae'n amlwg nad yw'r ymdrechion hyn wedi bod yn ddigonol i atal effaith niweidiol ar ansawdd bywyd trigolion.

"Rwyf bellach wedi ysgrifennu at yr awdurdod lleol i nodi barn y trigolion fel rhan o'r broses gynllunio."

"Rwyf am ddiolch i bawb a fynychodd y cyfarfod ac am eu sicrhau unwaith eto fy mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod eu pryderon yn cael eu clywed."

Dywedodd y Cynghorydd Lleol Cheryl Carlisle:

"Roedd yn dda gweld cymaint o drigolion yn bresennol yn y cyfarfod ac yn lleisio’u barn. Hoffwn ddiolch iddyn nhw’i gyd am ddod ar fyr rybudd a hefyd i CNC a Jennings am wrando ar eu pryderon.

"Rwyf am annog yr holl drigolion sydd â diddordeb yn y mater hwn i gyflwyno eu sylwadau eu hunain i'r Adran Gynllunio."

Gall trigolion fynegi eu barn yn uniongyrchol i'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig drwy e-bostio [email protected] erbyn 1 Awst 2025 gan ddyfynnu’r rhif cais cynllunio 0/52629.

 

You may also be interested in

Call for charges for replacement recycling containers to be scrapped

Call for charges for replacement recycling containers to be scrapped

Dydd Llun, 15 Mehefin, 2026
Clwyd MS Darren Millar has called on the Welsh Government to introduce a consistent national approach to replacement recycling containers across Wales.Darren is concerned that residents in some counties, including Denbighshire, are being forced to pay for replacement recycling boxes, bins and bags,&

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree