Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Llywodraeth Cymru yn gadael cleifion i lawr drwy fethu â defnyddio'r gyllideb iechyd lawn

  • Tweet
Dydd Mawrth, 20 Ionawr, 2026
  • Newyddion Lleol
Welsh Government short-changes patients by failing to use full health budget

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi herio Ysgrifennydd Iechyd y Cabinet am fethiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'i dyraniad llawn o gyllid iechyd.

Yn siarad yng nghyfarfod y Senedd yr wythnos hon, dywedodd Darren tra bod bywydau'n cael eu rhoi mewn perygl mewn byrddau iechyd ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn gwario 8c yn llai fesul claf nag y gallai.

Am bob £1 sy'n cael ei wario ar glaf yn Lloegr, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 i'w wario ar glaf yng Nghymru , ond dywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd ddydd Mawrth fod Llywodraeth Cymru yn gwario £1.12 am bob £1 sy'n cael ei wario ar glaf yn Lloegr.

Mae Darren felly yn awyddus i wybod ar beth mae'r 8c sy'n weddill yn cael ei wario.

Gan herio Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, ar ôl cyfeirio at achosion lle mae cleifion wedi cael eu gadael i lawr, dywedodd:

“Gaf i eich atgoffa, Ysgrifennydd y Cabinet, am bob £1 a werir ar glaf yn Lloegr, fod cyllideb Llywodraeth Cymru’n cael £1.20 i'w wario ar glaf yma. Nid yw hynny'n swnio fel cyllid diffygiol i mi.

“Dywedodd y Prif Weinidog ei hun, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, wrth y Senedd hon, ac roedd fel pe bai'n brolio'n ei gylch, fod Llywodraeth Cymru’n gwario £1.12 am bob £1 a werir ar glaf yn Lloegr. Beth ydych chi'n ei wneud gyda'r 8c arall?

“Beth ydych chi'n ei wneud gyda'r 8 y cant arall y gallech fod yn ei ddefnyddio i wella cyllideb Llywodraeth Cymru?

“Pam ar y ddaear na wnewch chi sicrhau bod pob ceiniog sy'n dod i Gymru i'w gwario ar y GIG yn cael ei wario ar y GIG, fel y gallwn ddatrys yr argyfwng hwn unwaith ac am byth?”

Cyn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y diffyg cyllid, cyfeiriodd Darren at ddynes 90 oed o Wyesham yn Sir Fynwy, Iris Morgan, a arhosodd am fwy na 32 awr am ambiwlans ar ôl torri ei chlun gartref.

Cyfeiriodd hefyd at gyflwr difrifol Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gan ddweud "Adroddodd Wales Online fod gan glaf 77 oed haint yn eu hysgyfaint ac fe'u cadwyd yn rhynnu gan oerfel ar ôl i'r gwres fethu yn yr adeilad hwnnw, unigolyn 80 oed yn wlyb gan ddiferion o'r nenfwd mewn twnnel llawn colomennod—y ferch yn disgrifio ei hanwylyd yn cael eu cludo drwy dwneli ffiaidd, llawn dŵr mewn mannau, gydag eitemau meddygol a sbwriel, a baw adar ym mhobman."

Meddai:

“Pam nad yw Llywodraeth Cymru’n ymyrryd?

"Nawr, gwnaed addewid i'r bobl a gâi eu gwasanaethu gan yr ysbyty hwnnw yn ôl yn 2021 y byddech chi'n adeiladu cyfleuster newydd. Nid yw wedi'i gyflawni. A oes gennych chi gynllun i fynd i'r afael ag adeiladau dadfeiliedig fel yr un i lawr y ffordd yma yng Nghaerdydd, a pha gamau rydych chi'n eu cymryd mewn mannau eraill i fynd i'r afael â phroblemau ar ystad y GIG?”

Wedyn, dywedodd Darren:

"Mae'n amlwg i bawb fod argyfwng yn ein GIG, ond mae'r Ysgrifennydd Iechyd hwn, a Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd, yn methu â chydnabod hynny.

"Hyd nes eu bod yn derbyn bod ein GIG wedi torri, dydyn nhw byth yn mynd i ddod o hyd i gynllun i'w drwsio."

 

 

You may also be interested in

Free entry to attractions and heritage sites supported by the National Lottery

Free entry to attractions and heritage sites supported by the National Lottery

Dydd Gwener, 6 Chwefror, 2026
Clwyd West MS Darren Millar is encouraging people to take advantage of an annual campaign which will allow them free entry during a week in March to a number of visitor attraction sites in North Wales.National Lottery Open Week, which will run from Saturday 7 to Sunday 15 March 2026, allows National

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2026 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree