
Ym mis Chwefror, nodwyd pumed pen-blwydd ar hugain llifogydd Towyn. Fe wnes i brofi erchyllderau’r llifogydd hwnnw, ynghyd â miloedd o bobl eraill, pan ildiodd amddiffynfeydd y môr yn Nhowyn yn ôl ym mis Chwefror 1990. Cafwyd y broses wacáu mwyaf ers yr ail ryfel byd, gyda miloedd o bobl yn gorfod cael eu hailgartrefu ar ôl i'r môr ddod i mewn. Diolch byth, mae Llywodraeth Cymru bellach yn buddsoddi yn amddiffynfeydd arfordirol ardal Towyn a Bae Cinmel, ac mae gwelliannau hefyd wedi bod i amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd rhannau eraill o arfordir y gogledd.
Fodd bynnag, gall llifogydd ddigwydd ac mae'n dal i ddigwydd, ac un o'r risgiau yw afonydd sy'n gorlifo eu glannau ar adegau o law uchel.
Gall llifogydd achosi difrod i gartrefi ac eiddo yn ogystal ag amharu ar gyfathrebu.
Fel AS, rwyf wedi treulio llawer o amser gyda dioddefwyr llifogydd ar ôl gwahanol lifogydd dros y blynyddoedd, felly rwy'n gwybod bod cael mynediad fforddiadwy at yswiriant yn achos pryder mawr i'r bobl hyn.
Y gost gyfartalog o atgyweirio cartref a gafodd ei ddifrodi gan lifogydd ar ôl Stormydd Ciara, Dennis a Jorge oedd tua £33,600.
Er bod yswiriant llifogydd yn rhan o bolisi yswiriant cartref safonol, os ydych chi mewn mwy o berygl o lifogydd – er enghraifft os ydych chi'n byw yn agos at afon sy'n gorlifo’n rheolaidd neu os ydych chi wedi gwneud sawl hawliad llifogydd mawr – efallai y byddwch chi’n gweld amddiffyniad rhag yswiriant llifogydd yn anoddach i'w gael neu'n gweld ei fod yn ddrytach.
Felly, croesawais yn fawr gyflwyniad The Flood Insurance Directory, a lansiwyd ar y cyd gan Gymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA), Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) a Flood Re ym mis Chwefror 2022. Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng y Llywodraeth ac yswirwyr sydd â’r nod o wneud y rhan yswiriant llifogydd o bolisïau yswiriant cartrefi yn fwy fforddiadwy.
Mae'n gyfeiriadur o ddarparwyr yswiriant llifogydd arbenigol a'i nod yw helpu deiliaid tai sy'n cael trafferth cael yswiriant llifogydd i gael mynediad at yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt.
Sefydlwyd y Cyfeiriadur mewn ymateb i'r Adolygiad Annibynnol o Yswiriant Llifogydd yn Doncaster, a argymhellodd ffordd o ddarparu mynediad haws at gynhyrchion yswiriant addas a fforddiadwy i helpu'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd.
Mae'r Cyfeiriadur yn cynnwys darparwyr yswiriant cartref sy'n cael eu cefnogi gan Flood Re a darparwyr yswiriant llifogydd ar gyfer cartrefi sydd y tu allan i feini prawf cymhwystra Flood Re e.e. y rhai sydd wedi’u hadeiladu ers 2009.
Mae'r Cyfeiriadur yn cael ei hyrwyddo'n rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol a sianeli cyfryngau eraill, ond rwy'n ymwybodol nad yw rhai pobl yn gwybod ei fod yn bodoli o hyd.
Felly, rwy'n awyddus i gyfeirio pobl at y cyfeiriadur sydd ar gael ar-lein yn http://www.biba.org.uk/Flood-insurance-directory
Er nad yw'n rhan o'r Cyfeiriadur Yswiriant Llifogydd, os byddai'n well gennych chi siarad â rhywun na chael mynediad at wefan, mae gwasanaeth dod o hyd i yswiriant BIBA yn gweithredu canolfan gyswllt, 0370 9501790, sy'n gallu derbyn eich galwad.
Mae cael amddiffyniad yn rhoi tawelwch meddwl i drigolion a busnesau ac yn eu sicrhau na fydden nhw’n gorfod talu’r costau pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Byddech chi'n synnu faint o ddifrod y gall hyd yn oed ychydig o ddŵr ei achosi ac mae cost enfawr ynghlwm wrth atgyweiriadau a phrynu eitemau newydd i ddodrefnu’r eiddo.
Mae cael llifogydd yn ddinistriol hyd yn oed pan fydd gennych chi yswiriant, dychmygwch faint gwaeth fyddai pe na bae yswiriant ar gael!