Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu'r Llywodraeth Lafur am fethu pobl yng Nghonwy a Sir Ddinbych, gyda'r ffigurau diweddaraf yn datgelu bod 2,507 yn fwy o aelwydydd yn y ddwy etholaeth wedi hawlio’r Credyd Cynhwysol (UC) ers mis Gorffennaf 2024.
Mae'r ffigurau'n dangos bod cynnydd o 1,402 o bobl ar Gredyd Cynhwysol yng Nghonwy a 1,105 yn Sir Ddinbych. Ym mis Gorffennaf 2024 yng Nghonwy roedd 10,151 o bobl ar y Credyd Cynhwysol, ym mis Mai 2025 roedd y nifer yn 11,553. Yn y cyfamser, yn Sir Ddinbych mae'r ffigur wedi codi o 9,348 yn 2024 i 10,453 ym mis Mai 2025.
Meddai Darren:
"Bob dydd rwy'n clywed gan etholwyr sy'n cael trafferth talu eu biliau, a nawr mae'r ffigurau hyn wedi cadarnhau cynddrwg yw'r sefyllfa.
"Ar ôl i Lafur ymosod ar fusnesau gyda threthi uwch a mwy o reoleiddio, roedd hi’n anochel y byddai'n arwain at lai o gyfleoedd cyflogaeth yma yn y Gogledd a mwy o bobl yn hawlio’r Credyd Cynhwysol.
"Mae diweithdra wedi neidio i 4.7 y cant, ei lefel uchaf mewn pedair blynedd, mae chwyddiant yn taro pocedi pobl, ac mae nifer y bobl ar y gyflogres wedi cwympo gan 164,000 o swyddi a mwy ers Cyllideb yr Hydref.
“Gwelodd y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf 4 miliwn yn fwy o bobl mewn gwaith, roedd y gyfradd ddiweithdra bron wedi’i haneru, ac roedd cyflogau gwirioneddol wedi tyfu am dri mis ar ddeg yn olynol.
"Gyda mwy o godiadau treth i ddod yr Hydref hwn i dalu am fethiannau Llafur, bydd pobl a busnesau yn gorfod talu'r pris."
Dywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yr Wrthblaid, Helen Whately AS:
"O dan Llafur, mae diweithdra wedi codi 10 mis yn olynol, ac mae dros 1 miliwn yn fwy o bobl ar fudd-daliadau. Mae Llafur wedi addo swyddi da ond maen nhw'n rhoi pobl ar fwy o fudd-daliadau, sy’n cael eu hariannu gan drethi uwch fyth.
"Mae Llafur bob amser wedi gadael eu cyfnod mewn grym gyda mwy o bobl allan o waith na phan gyrhaeddon nhw. Dydy o’n ddim syndod bod arweinwyr busnes yn rhybuddio bod y sefyllfa yn un beryglus ar y naw."