Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Mwy o blant o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr bellach yn gallu cael gafael ar gymorth

  • Tweet
Dydd Mawrth, 7 Ebrill, 2026
  • Newyddion Lleol
More children from Armed Forces and veteran families now able to access support

Fel eiriolwr brwd dros blant a theuluoedd y lluoedd arfog yng Nghymru, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion y bydd mwy o blant a phobl ifanc o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr yn gallu cael gafael ar help.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ehangu'r diffiniad o'r term 'plentyn milwr' a ddefnyddir i benderfynu ar gymhwyster i gael cymorth.

Bydd y newidiadau hyn yn golygu y gall mwy o blant a phobl ifanc o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr gael gafael ar gymorth o'r mis hwn ymlaen.

Fel sylfaenydd a chyn-Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid, mae Darren wedi bod yn ymgyrchu dros y newid ers tro byd.

Meddai:

"Rwy'n falch iawn ein bod ni’n symud i'r cyfeiriad iawn o’r diwedd, ar ôl blynyddoedd lawer o alw am fwy o gymorth i blant a phobl ifanc milwyr.

"Trwy gydol fy 15 mlynedd fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, roeddwn i’n mynd ati’n weithredol i mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu plant personél y lluoedd arfog, yn enwedig o ran parhad addysgol a gofal bugeiliol pan fydd teuluoedd yn symud.

"Mae'n gallu bod yn hynod heriol i blant a phobl ifanc milwyr sy’n gorfod ailadeiladu eu bywydau bob tro mae’r teulu’n symud.

"Mae'n rhaid iddyn nhw aberthu eu sefydlogrwydd fel y gall eraill deimlo'n ddiogel, felly mae ond yn deg ein bod ni'n eu had-dalu trwy ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw’n ei haeddu."

Ar hyn o bryd, darperir cymorth Llywodraeth Cymru yn bennaf trwy Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg (SSCE) Cymru. Fodd bynnag, ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys SSCE Cymru, CLlLC, Ffederasiynau Teuluoedd y Lluoedd Arfog, a Thîm Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ehangu'r diffiniad o blentyn milwr.

O'r mis hwn:

· bydd plant cyn-filwyr yn gymwys i gael cymorth am hyd at chwe blynedd ar ôl i'w rhiant adael y lluoedd arfog (cynnydd o’r ddwy flynedd bresennol), gan sicrhau bod Cymru yn cyd-fynd â'r diffiniad a ddefnyddir yn Lloegr; a

· bydd cymhwystra yn ymestyn i bobl ifanc hyd at 18 oed, gan adlewyrchu dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Mae'r newidiadau hyn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb ledled y DU, yn cynyddu eglurder i deuluoedd sy'n symud rhwng cenhedloedd ac yn adlewyrchu'n well yr effaith barhaus y gall bywyd yn y lluoedd arfog ei chael ar blant a phobl ifanc.

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Mae angen gweithredu ar gostau tanwydd cludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Dydd Llun, 5 Hydref, 2026
Mae Darren Millar AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gefnogi gweithredwyr cludiant rhwng y cartref a’r ysgol sy'n wynebu costau tanwydd cynyddol ledled y Gogledd.Mae marchnadoedd byd-eang wedi gweld costau tanwydd yn cynyddu o ganlyniad i ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol a sancsiyna

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree