Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi ysgrifennu at Trafnidiaeth Cymru i rannu pryderon lleol ynglŷn â newidiadau i amserlen gwasanaethau rheilffyrdd sydd wedi dileu nifer o wasanaethau uniongyrchol i ac o Bensarn.
Er bod Darren wedi croesawu rhai o'r newidiadau a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mae'n siomedig bod rhai yn effeithio’n negyddol ar drigolion sy'n byw yn Abergele a Phensarn, a'r ardaloedd cyfagos.
O fis Mai, ni fydd unrhyw drenau, ac eithrio rhai yn gynnar iawn yn y bore ac yn hwyr iawn yn y nos, yn stopio ym Mhensarn o Fanceinion, Birmingham, Crewe, Caerdydd, Bangor na Chaergybi.
Meddai Darren:
"Unwaith eto, mae gwasanaethau i ac o orsaf Pensarn wedi cael eu hisraddio.
"Mae hon yn orsaf a ddefnyddir yn gyson, sy'n gwasanaethu defnyddwyr rheilffyrdd nid yn unig o Bensarn, ond hefyd o Abergele gyfan a'r ardaloedd cyfagos. Mae hefyd yn un o'r cyrchfannau mwyaf cyfeillgar i bobl anabl ac yn gyrchfan pwysig i ymwelwyr.
"Felly mae'n hynod siomedig bod arhosfan Pensarn wedi'i dynnu oddi ar linell Manceinion a'i roi ar y llinell newydd o Landudno i Lerpwl.
"Mae hyn yn golygu na fydd gan y rhai sy'n teithio i ac o'r orsaf hon unrhyw drenau uniongyrchol i Fanceinion a Maes Awyr Manceinion, nac i Fangor/Caergybi.
"Mae trigolion wedi cysylltu â mi i fynegi pryder y bydd yn cymryd 40 munud yn fwy i gyrraedd Pensarn o Fanceinion pan ddaw'r newidiadau i rym ym mis Mai, gan y bydd rhaid i bobl newid yn y Rhyl ac aros 40 munud am y trên o Lerpwl i Bensarn.
"Mae'r newidiadau newydd i'r amserlen yn golygu, oni bai eich bod chi'n mynd i Landudno neu Lerpwl, nad oes trenau uniongyrchol a bod y cysylltiadau’n wael iawn.
"Fel y dywedodd un preswylydd lleol, 'mae’r newidiadau i’r amserlen ym mis Mai yn drychineb i drigolion Abergele'.
"Nid yw hyn yn deg felly rydw i wedi gwneud sylwadau i Trafnidiaeth Cymru yn gofyn iddyn nhw fynd i'r afael â'r materion hyn."
Ychwanegodd:
"Rydyn ni'n cael ein cynghori’n ddi-baid i beidio â defnyddio ein ceir a defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, ond oni bai bod gwasanaethau rheilffordd dibynadwy, cyflym ar gael, ni fydd hyn yn digwydd.
"Rydw i wedi galw ar TrC i adolygu eu hamserlen newydd a dychwelyd y gwasanaethau uniongyrchol i Bensarn."