Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Penderfyniad Sir Ddinbych am y terfynau cyflymder 20mya dan y lach

  • Tweet
Dydd Gwener, 13 Mehefin, 2025
  • Newyddion Lleol
Penderfyniad Sir Ddinbych am y terfynau cyflymder 20mya dan y lach

Leader of the Welsh Conservatives and Clwyd West MS Darren Millar has accused Denbighshire County Council of “taking the easy option” by not reverting any of the 20mph roads back to a 30mph speed limit.

 Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi cyhuddo Cyngor Sir Ddinbych o "gymryd yr opsiwn hawdd" trwy beidio ag adfer unrhyw un o'r ffyrdd 20mya i fod yn rhai 30mya.

Cafwyd protestio cyhoeddus ledled Cymru ers i'r terfyn 20mya mewn ardaloedd adeiledig gael ei gyflwyno yn ôl ym mis Medi 2023.

Yn Sir Ddinbych, o blith bron i 300 darn o ohebiaeth gyhoeddus, awgrymwyd cyfanswm o 202 rhan o ffyrdd fel "eithriadau pellach" i'r terfyn 20mya. Fodd bynnag, heddiw datgelwyd na fydd yr awdurdod lleol yn adfer yr un o’r ffyrdd arfaethedig yn ôl i fod yn rhai 30mya.

Wrth wneud ei sylwadau, dywedodd Darren:

"Fel llawer o bobl eraill yn Sir Ddinbych sy'n darllen y newyddion yma heddiw, rwy'n hynod siomedig gyda phenderfyniad Sir Ddinbych.

"Mae'n syfrdanol nad ydyn nhw’n teimlo, o'r 202 rhan o ffyrdd a gynigir na ddylid adfer yr un i fod yn  30mya.

"Rwy'n teimlo bod Cyngor Sir Ddinbych unwaith eto wedi cymryd yr opsiwn hawdd, a’r un sy'n achosi'r lleiaf o waith iddyn nhw. Rydyn ni wedi ei weld gydag ailadeiladu pont Llannerch, bwriad y maen nhw wedi penderfynu rhoi’r gorau iddo, a nawr hyn.

"Mae awdurdodau lleol cyfagos wedi adfer ffyrdd i fod yn rhai 30mya, neu maen nhw wrthi, felly mae'n hynod siomedig bod Sir Ddinbych wedi penderfynu tynnu’n groes.

"Rydw i bob amser wedi dweud bod 20mya yn briodol mewn sawl man. Mae angen terfynau cyflymder is y tu allan i ysgolion ac ysbytai. Fodd bynnag, ni ddylid anwybyddu'r effaith y mae'r ymagwedd gyffredinol hon yn ei chael ar fywydau pobl.

"Byddaf yn ysgrifennu at Gyngor Sir Ddinbych yn amlinellu fy mhryderon ac yn eu hannog i adolygu'r penderfyniad hwn."

 

 

 

You may also be interested in

Welsh Government’s ‘Help to Stay’ scheme not achieving what it set out to

Welsh Government’s ‘Help to Stay’ scheme not achieving what it set out to

Dydd Gwener, 18 Gorffennaf, 2025
Leader of the Welsh Conservatives and Clwyd West MS Darren Millar has called on the Welsh Government to make it easier for people to apply for its Help to Stay Scheme, which is aimed at helping people struggling to pay their mortgage. The scheme offers Welsh homeowners who are in, or facing, fi

Show only

  • Erthyglau
  • Newyddion Ewropeaidd
  • Newyddion Lleol
  • Newyddion o Holyrood

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree