Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Glwyd

Main navigation

  • Home
  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
  • Campaigns

Pentref yn Sir Ddinbych yn dathlu agor offer chwarae newydd

  • Tweet
Dydd Mawrth, 4 Tachwedd, 2025
  • Newyddion Lleol
Denbighshire village celebrates opening of new play equipment
Denbighshire village celebrates opening of new play equipment

Roedd AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn falch o agor ardal offer chwarae newydd yn swyddogol ar Gae Chwarae Llanarmon dros y penwythnos, gan nodi carreg filltir bwysig mewn ymdrechion lleol i wella cyfleusterau hamdden i deuluoedd.

Roedd gosod yr offer newydd, sy'n cynnwys sleidiau, siglenni a fframiau dringo, yn bosibl diolch i grant y Loteri Genedlaethol o £91,805 a ddyfarnwyd i Gyngor Cymuned Llanarmon-yn-iâl.

Dechreuodd y gwaith o osod yr offer newydd ar 1 Medi  ac roedd Darren yn falch iawn o ymweld â’r cyfleusterau newydd a’u hagor yn swyddogol ddydd Sadwrn.

Meddai:

"Roedd hwn yn achlysur arwyddocaol i'r pentref, ac roeddwn i'n falch o fod yn rhan ohono. Roedd hi’n anrhydedd cael cynnig cymryd rhan yn agoriad swyddogol y cyfleusterau newydd trawiadol hyn ac i ymuno yn y dathliadau, yn enwedig o ystyried fy mod wedi cymryd rhan yn agoriad Parc Sglefrfyrddio a Sglefrolio'r pentref tua 10 mlynedd yn ôl.

"Mae'r gofod hwn wedi'i greu gyda chynhwysiant a hwyl mewn golwg ac roedd hi’n wych gweld cymaint o deuluoedd lleol yn dod at ei gilydd i ddathlu'r agoriad ac i fwynhau'r Diwrnod Hwyl yr oedd y cyngor wedi'i drefnu gydag amrywiaeth o weithgareddau a lluniaeth.

"Mae ardaloedd chwarae yn hanfodol o ran lles ein pobl ifanc, ac maen nhw’n hyrwyddo gweithgarwch corfforol, creadigrwydd a chysylltiadau cymdeithasol cryf ymhlith teuluoedd.

"Bydd yr offer chwarae newydd hwn yn dod â llawenydd i blant Llanarmon-yn-iâl am flynyddoedd lawer i ddod, ac rwy'n diolch i'r Cyngor Cymuned, Norma Wright, clerc y cyngor, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl."

Meddai’r Cynghorydd Terry Mendies, a fynychodd yr agoriad swyddogol a'r Diwrnod Hwyl:

"Roedd hi’n bleser llwyr mynychu'r agoriad a gweld y plant yn mwynhau'r offer newydd.

"Diolch i'r Cyngor Cymuned am eu holl ymdrechion i sicrhau'r grant hwn gan y Loteri Genedlaethol.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn ein cymuned leol yn helpu teuluoedd i dreulio amser gyda'i gilydd ac yn creu ymdeimlad parhaol o falchder yn ein cymuned."

 

You may also be interested in

Call for charges for replacement recycling containers to be scrapped

Call for charges for replacement recycling containers to be scrapped

Dydd Llun, 15 Mehefin, 2026
Clwyd MS Darren Millar has called on the Welsh Government to introduce a consistent national approach to replacement recycling containers across Wales.Darren is concerned that residents in some counties, including Denbighshire, are being forced to pay for replacement recycling boxes, bins and bags,&

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree