Gyda'r Sul hwn yn nodi 10 mlynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynd dan fesurau arbennig, yr wythnos hon, cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig gynnig y Senedd yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i gychwyn ymchwiliad cyhoeddus i'r Bwrdd Iechyd.
Pleidleisiodd Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn erbyn y galwadau hyn.
Wrth siarad yn y ddadl, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, er gwaethaf gwaith da staff y Bwrdd Iechyd, ers iddyn nhw gael eu rhoi dan fesurau arbennig am y tro cyntaf yn ôl yn 2015, fod perfformiad y Bwrdd Iechyd wedi cymryd cam yn ôl.
Ychwanegodd:
“Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn gwbl analluog i newid y sefyllfa. Felly, mae dioddefwyr y llanast hwn - ac rwy'n eu galw'n 'ddioddefwyr' yn fwriadol - y cleifion a'r staff yn cael bargen waeth yng ngogledd Cymru nag yn unrhyw ran arall o'r wlad.
“Mae gennym ddyletswydd i bob unigolyn sydd â pherthynas a gafodd niwed a phob unigolyn sydd wedi colli perthynas neu anwylyd o ganlyniad i'r trychineb hwn yng ngogledd Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i wraidd y problemau hyn.
“Mae'n rhaid inni newid y diwylliant, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r gwelliannau hyn, ac un o'r ffyrdd o wneud hynny yw trwy gael ymchwiliad cyhoeddus cwbl annibynnol i fynd at wraidd y materion hyn ac i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r newid sydd ei angen arnom.”