
Cafodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar AS, ei roi dan y chwyddwydr yr wythnos hon pan fu pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn ei holi dros Zoom.
Cymerodd Darren ran yn y rhaglen Deialog Ddigidol: Cymru, a gyflwynir gan The Politics Project, sy'n gweithio ledled y DU i gysylltu ysgolion a phobl ifanc â'u cynrychiolwyr etholedig trwy blatfformau fideogynadledda fel Zoom a Teams.
Ymunodd pobl ifanc o Ysgol Bro Preseli, Crymych, Ysgol Dinas Bran, Llangollen, Colegau NPTC a Choleg Sir Benfro, â'r alwad gan ofyn amrywiaeth o gwestiynau i Darren, a ddaeth yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd cyn y Nadolig. Cwestiynau am ei rôl a'i wleidyddiaeth yn gyffredinol.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
"Gydol fy nghyfnod ym myd gwleidyddiaeth, rwyf bob amser wedi siarad am bwysigrwydd ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth.
“Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cynnal ymweliadau di-ri ag ysgolion yn fy etholaeth - a byddaf yn dychwelyd i'm hen ysgol uwchradd yn Abergele yr wythnos hon i siarad â disgyblion yno. Fodd bynnag, yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae'n haws nag erioed cael sgwrs gyda'n pobl ifanc.
“Fel Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae angen i mi ymgysylltu â myfyrwyr, nid yn unig yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd, ond, ar draws Cymru gyfan ac mae'r Ddeialog Ddigidol yn ffordd ddelfrydol o wneud hyn heb orfod teithio am filltiroedd lawer.
“Yn y sesiwn ddydd Llun, fe wnes i gysylltu â phobl ifanc o ysgolion a cholegau o bob cwr o'r wlad. Gofynnwyd cwestiynau gwych, a mwynheais i'r sesiwn yn fawr iawn.
“Erbyn diwedd y sesiwn, rwy'n ffyddiog bod gan bob un ohonyn nhw ddealltwriaeth well o'r Senedd, yr hyn mae Aelodau o’r Senedd yn ei wneud, a'r penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud sy'n effeithio arnyn nhw. Gwnaeth y ffordd roedden nhw'n ymgysylltu â mi argraff fawr arna i, ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn mwy o sesiynau Deialog Ddigidol yn y dyfodol.”