Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Pobl sy’n wynebu risg yn cael eu hannog i gael brechiad ffliw

  • Tweet
  • Share
Dydd Mawrth, 13 Hydref, 2026
  • Newyddion Lleol
DM

Mae AS Clwyd, Darren Millar, yn annog pawb sy'n gymwys i gael eu brechiad ffliw er mwyn trechu'r feirws y gaeaf hwn.

Cafodd Darren ei frechiad ffliw ei hun yr wythnos hon ac mae'n annog pawb sy’n wynebu risg i gael eu hamddiffyn rhag y feirws.

Mae ffliw yn salwch difrifol sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu, a all arwain at gyflyrau difrifol eraill fel broncitis a niwmonia, sy'n aml yn gofyn am driniaeth ysbyty.

Meddai Darren:

"Gydag achosion o ffliw yn digwydd y rhan fwyaf o aeafau, gall fod yn salwch difrifol iawn i lawer o grwpiau o bobl.

"Y brechiad ffliw blynyddol yw'r ffordd orau o gael eich diogelu rhag y feirws a heintiau eraill sy'n peryglu bywyd.

"Mae cael y brechlyn yn broses gyflym a diogel a gallai atal wythnosau o salwch difrifol.

"Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i gael y brechlyn ffliw am ddim i wneud trefniadau i’w gael cyn gynted â phosibl."

Am ragor o wybodaeth am y brechlyn, yn ogystal â meini prawf cymhwysedd a sut i drefnu’ch apwyntiad, ewch i:

 

https://icc.gig.cymru/gwybodaeth-erthygl/brechlyn-ffliw/cymhwystra-ar-gyfer-y-brechlyn-ffliw/  

 

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Cynlluniau Parc Cenedlaethol wedi'u rhoi o’r neilltu

Dydd Iau, 15 Hydref, 2026
Yn y Senedd yr wythnos hon, croesawodd AS Clwyd, Darren Millar, y penderfyniad i oedi cynlluniau ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yn y Gogledd-ddwyrain.Roedd Darren wedi cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddweud y dylai unrhyw barc cenedlaeth

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree