Ymateb i adroddiadau bod y Prif Weinidog yn annog mwy o staff Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i weithio gartref a dychwelyd i'r swyddfa.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae Llafur Cymru wedi creu'r broblem hon gyda'i hagwedd esgeulus at arian cyhoeddus ac arweinyddiaeth wael ar y mater.
"Mae ASau Llafur yn gweithio o'u soffas yn rheolaidd a dydyn nhw ddim yn mynychu'r Senedd eu hunain bob amser, felly does dim syndod nad yw staff Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw.
"Mae swyddfeydd llywodraeth gwag Llafur bellach yn costio miliynau i drethdalwyr Cymru y gellid ei fuddsoddi yn ein hysgolion a'n hysbytai yn lle hynny.
"Yn ôl ym mis Mawrth, addawais y byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn rhoi terfyn ar weithio o bell yn ddiangen, ac yn cael pobl oddi ar eu soffas ac yn ôl i'w swyddfeydd os byddwn mewn llywodraeth fis Mai nesaf. Rwy'n sefyll wrth yr addewid hwnnw."