Medi yw Mis Clefyd Alzheimer y Byd, gyda Diwrnod Clefyd Alzheimer y Byd wedi’i gynnal ar 21 Medi.
Salwch corfforol sy'n niweidio ymennydd person yw clefyd Alzheimer. Mae’n achosi dementia yn y pen draw, gan effeithio ar y cof a’r meddwl. Clefyd Alzheimer yw'r achos mwyaf cyffredin o ddementia.
Er gwaethaf camsyniadau cyffredin, nid yw dementia yn rhan arferol o heneiddio. Mae'n gyflwr cynyddol, terfynol ac, ar hyn o bryd, nid oes modd gwella ohono.
Mae effaith clefyd Alzheimer, a phob math o ddementia, yn enfawr - mae'n dinistrio bywydau ac yn llethu'r system iechyd a gofal cymdeithasol, a'r economi.
Mae tua 51,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru ar hyn o bryd.
Y ffactor risg mwyaf ar gyfer dementia yw heneiddio, ac wrth i gyfran y boblogaeth sy'n 65 oed a throsodd gynyddu, gall y boblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru fod yn broblem o ran gofal dementia. Erbyn 2040, amcanestynnir y bydd nifer y bobl hŷn sy'n byw gyda dementia yng Nghymru yn cynyddu 37% i bron i 70,000 o bobl.
O ystyried cyffredinrwydd ac effaith bresennol a chynyddol dementia, mae'n warthus nad yw’r broblem iechyd fawr hon yn cael ei thrin fel blaenoriaeth.
Mae cyfraddau diagnosis yn rhy isel ym mhob rhan o'r DU, ond Cymru sydd â'r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf (56%) - gan adael bron i hanner y bobl â dementia i ymdopi heb y gefnogaeth, y gofal a'r driniaeth y gall diagnosis ei gynnig.
Felly, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o symptomau dementia, sy'n cynnwys;
- Colli cof
Er enghraifft, anghofio pethau a ddigwyddodd yn ddiweddar, problemau gyda chofio.
- Anhawster canolbwyntio, cynllunio neu drefnu
Er enghraifft, trafferth gwneud penderfyniadau, datrys problemau neu ddilyn cyfres o gamau (fel coginio pryd o fwyd).
- Problemau gydag iaith a chyfathrebu
Er enghraifft, anawsterau o ran dod o hyd i'r geiriau cywir, trafferth ymateb yn briodol neu ddilyn sgwrs.
- Camddeall yr hyn sy'n cael ei weld
Er enghraifft, cam-adnabod pethau, trafferth barnu pellter (fel ar risiau), a chamddehongli adlewyrchiadau, neu weld drychiolaethau.
- Bod yn ddryslyd am amser neu le
Er enghraifft, colli golwg ar yr amser neu'r dyddiad, neu fynd yn ddryslyd ynglŷn â ble maen nhw, neu ba gyfnod o'u bywyd maen nhw ynddo.
- Newidiadau mewn hwyliau neu anhawster rheoli emosiynau
Er enghraifft, dod yn anarferol o bryderus, blin, trist neu ofnus, colli diddordeb mewn pethau a newidiadau mewn personoliaeth.
Mae hefyd yn bwysig bod y rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi'n briodol.
Gofynnodd y Gymdeithas Alzheimer i bobl â'r cyflwr, ynghyd â'r rhai sy'n gofalu amdanynt, ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon faint o gymorth maen nhw’n ei gael, a dywedodd un o bob pump o'r bron i 3,500 o bobl a holwyd nad oeddent wedi cael unrhyw gymorth ar ôl diagnosis, tra mai dim ond 29% a ddywedodd fod gofal sy'n gysylltiedig â dementia yn hawdd ei gael.
Mae hyn yn annerbyniol ac mae angen iddo newid. Yma yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei Chynllun Gweithredu nesaf ar gyfer Dementia yn cynnwys ymrwymiad beiddgar i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.
Yn y Gogledd, rydym yn ffodus iawn bod gennym Ganolfan Dementia Gogledd Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mochdre ac yr wyf wedi ailymweld â hi yn ddiweddar.
Agorodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr y ganolfan yn 2021 ac, ers hynny, mae wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu miloedd o deuluoedd y mae dementia wedi effeithio ar eu bywydau.
Yn aml yn dilyn diagnosis o ddementia, mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu llethu, yn ynysig ac yn ansicr ble i droi. Mae'r ganolfan wych hon yn cynnig y gefnogaeth a’r offer sydd eu hangen ar bobl â dementia a'u hanwyliaid i lywio'r daith heriol hon.
Mae'n cynnal grwpiau cymunedol, caffis dementia, gweithgareddau cymdeithasol, cefnogaeth emosiynol ac yn rhoi cyngor ac arweiniad hyfforddi am ddim i bobl â dementia a'u teuluoedd.
Gallwch fynychu sesiynau gwybodaeth grŵp os ydych chi'n byw gyda dementia neu'n ofalwr di-dâl. Mae sesiynau un-i-un hefyd ar gael os nad ydych chi'n teimlo'n barod i fynychu sesiwn grŵp ac mae sesiynau ffôn ar gael i bawb. Fel y dywedais ar ôl fy ymweliad, mae'n fwy na dim ond adeilad, mae'n achubiaeth i deuluoedd.
Rwy'n ddiolchgar am bopeth maen nhw'n ei wneud yn y ganolfan. Ni ddylai unrhyw un y mae’r clefyd ofnadwy hwn yn effeithio arno orfod troedio’r llwybr anodd hwn ar ei ben ei hun.
- Mae gwasanaethau Canolfan Dementia Gogledd Cymru ar gael i unrhyw un sy'n byw yn y Gogledd. Gall unrhyw un sydd angen gwybodaeth, cyngor neu gymorth ffonio 01492 542212. Mae'r ganolfan wedi'i lleoli ym Mharc Menter Quinton Hazell, Ffordd Glan y Wern, Mochdre, Bae Colwyn, LL28 5BS.
· Mae Cymdeithas Alzheimer’s hefyd yn darparu ystod o wasanaethau cymorth, gan gynnwys eu Llinell Gymorth Dementia: 0333 150 3456. Am ragor o wybodaeth, ewch i Dementia support services | Cymdeithas Alzheimer's
