Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Rhaid i Lywodraeth Cymru egluro ei safbwynt ar welyau'r GIG

  • Tweet
Dydd Mercher, 29 Ionawr, 2025
  • Newyddion Lleol
Rhaid i Lywodraeth Cymru egluro ei safbwynt ar welyau'r GIG

Yn dilyn sylwadau a wnaed yr wythnos diwethaf gan y cyn-Brif Weinidog a nawr yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, bod gan GIG Cymru ormod o welyau ysbyty, mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw am eglurhad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater.

Wrth siarad ar bodlediad yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: "Os ydych chi'n gofyn i fi, pe bai gen i ddalen wag o bapur ac y gallwn wneud y pethau dwi’n meddwl sydd angen eu gwneud, byddai gennym lai o ysbytai yng Nghymru. Mae gennym ormod o ysbytai a gormod o welyau."

Yn y Datganiad Busnes ddoe, dywedodd Darren y byddai cleifion yng Nghymru yn anghytuno â’r farn hon.

Gan alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Iechyd ar y mater, dywedodd:

“Rwy'n credu bod llawer o bobl ledled Cymru wedi'u brawychu'n ofnadwy o weld cymaint yr oedd Llywodraeth Cymru wedi colli gafael ar bethau yr wythnos diwethaf pan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddatganiad a oedd yn awgrymu bod gormod o welyau yn GIG Cymru a gormod o ysbytai.

“Nawr, i'r bobl hynny sydd wedi eu gadael yn dihoeni mewn poen ar restrau aros, am fod angen triniaeth mewn ysbyty arnyn nhw, roedd y datganiad hwnnw'n hollol warthus.

“Mae angen bod ag eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ar nifer y gwelyau sydd eu hangen yn GIG Cymru, i sicrhau na fydd cyfluniad presennol ein hysbytai ni'n lleihau, ac, yn wir, sicrhau y bydd yr ysbytai newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi addo yn cael eu darparu mewn gwirionedd, yn enwedig o gofio mai Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid sy'n dal llinynnau’r pwrs.”

Yn ei hymateb, ni roddodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes) unrhyw sicrwydd ar niferoedd gwelyau.

 

You may also be interested in

Welsh Labour "Sat on their hands" as farmers force UK Government u-turn

Welsh Labour "Sat on their hands" as farmers force UK Government u-turn

Dydd Mercher, 24 Rhagfyr, 2025
Welsh Conservatives have accused Welsh Labour of rank hypocrisy after Labour ministers in Westminster were forced into watering down controversial inheritance tax changes affecting farms, changes which Welsh Labour MPs had previously backed in full.After months of sustained pressure from farmers, fa

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree