Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Strôc - mae gormod o bobl yn colli eu bywydau neu'n newid am byth gan fod gwasanaethau’n methu

  • Tweet
Dydd Mercher, 22 Hydref, 2025
  • Newyddion Lleol
Stroke - Too many lives are lost or permanently altered because services fall short

Bydd Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal wythnos nesaf ar 29 Hydref.

Strôc yw pedwerydd llofrudd mwyaf Cymru. Mae'n un o brif achosion anabledd, gan newid bywydau'r 7,000 o bobl a fydd yn cael strôc eleni yng Nghymru.

Bob blwyddyn, mae strôc yn costio £220 miliwn i GIG Cymru a £1.63 biliwn i economi Cymru. Heb ymyrraeth, gallai hyn godi i £2.8 biliwn erbyn 2035.

Mae'r Gymdeithas Strôc yng Nghymru wedi rhybuddio bod triniaeth a gofal pobl sy'n cael strôc yng Nghymru wedi dirywio ers 2019 ac y bydd "esgeuluso buddsoddiad mewn strôc yn cael canlyniadau sylweddol”.

Yn ddiweddar, codais hyn yn y Senedd ar ôl ymweld â Grŵp Strôc yn Rhuthun, lle cefais gyfle i sgwrsio â'r rhai a oedd yn bresennol a dysgu nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud wrth geisio gwella canlyniadau i gleifion strôc yma yng Nghymru.

Wrth siarad yn y Siambr, dywedais: “Nid yw pawb yn cael mynediad at unedau strôc, nid yw pawb yn cael mynediad at wasanaethau ailalluogi yn y ffordd y dylen nhw, ac, yn benodol, mae'n ymddangos bod bwlch o ran darparu cymorth seicolegol, rhoi'r cymorth iechyd meddwl a llesiant hwnnw i bobl sydd wedi dioddef strôc, ac yn wir eu gofalwyr.

Fe wnes i hefyd godi pryderon am y ffaith nad oes llawer o sylw’n cael ei roi i’r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus 'Cofiwch y Cam NESA' yma yng Nghymru.

Mae ymgyrch Cofiwch y cam N.E.S.A yn annog y cyhoedd i ffonio 999 os ydyn nhw'n sylwi ar hyd yn oed un o arwyddion strôc ynddyn nhw’u hunain, neu mewn eraill:

Nam ar yr wyneb – a yw'r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw'n gallu gwenu?

Estyn – ydyn nhw'n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a'u cadw yno?

Siarad - ydyn nhw'n cael trafferth siarad?

Amser – i ffonio 999

Mae'r ymgyrch hon wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o symptomau mwyaf cyffredin strôc a gwella canlyniadau i oroeswyr strôc. Mae wedi cael effaith sylweddol ar gleifion sy'n derbyn triniaeth strôc mewn rhannau eraill o'r DU, ac mae'n hanfodol bod yr ymgyrch yn cael ei hadfywio yma yng Nghymru.   

Gwnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru argymell yn ei ‘Adolygiad cenedlaethol o Lif Cleifion: taith drwy’r llwybr strôc’ yn 2023 y dylid cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth strôc wedi'u targedu ochr yn ochr ag ymgyrch genedlaethol Cofiwch y Cam NESA.

Rydw i hefyd yn cefnogi'r galwadau gan y Gymdeithas Strôc yng Nghymru am gymorth iechyd meddwl arbenigol i oroeswyr strôc.

Mae arolwg diweddar gan y Gymdeithas Strôc yn dangos bod tua thri chwarter o oroeswyr strôc yn profi o leiaf un broblem iechyd meddwl yn dilyn strôc, ond dim ond 3% a gafodd gymorth pan oedd ei angen arnynt fwyaf. Ar hyn o bryd, nid oes llawer o gymorth arbenigol ar gael yng Nghymru er mwyn helpu goroeswyr strôc i fynd i'r afael â'u hiechyd meddwl.

Mae strôc yn argyfwng meddygol lle mae pob eiliad yn cyfrif, ond mae gormod o fywydau yn cael eu colli neu eu newid yn barhaol gan fod gwasanaethau’n methu, ac mae lefelau ymwybyddiaeth yn isel o hyd.

Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n gwella gofal arbenigol ac yn addysgu'r cyhoedd am arwyddion brys strôc – dim ond trwy gymryd camau o'r fath y byddwn yn trawsnewid canlyniadau.

 

  • Y Gymdeithas Strôc yw'r unig elusen ledled y DU sy'n darparu cymorth gydol oes i bob goroeswr strôc a'u teuluoedd. I ddysgu mwy am eu gwasanaethau cymorth, ewch i Cymru | Y Gymdeithas Strôc


 

You may also be interested in

Long hospital waiting times in North Wales putting strain on GP surgeries

Long hospital waiting times in North Wales putting strain on GP surgeries

Dydd Iau, 4 Rhagfyr, 2025
Clwyd West MS Darren Millar has warned that delays for hospital treatments in North Wales are putting additional strain on GP surgeries and making it harder for patients to access appointments.Raising the matter in the Welsh Parliament this week, Darren called on the Cabinet Secretary for Health to

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree