Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Trigolion yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynllun ailgylchu Sir Ddinbych

  • Tweet
  • Share
Dydd Llun, 5 Hydref, 2026
  • Newyddion Lleol
Ailgylchu

Mae AS Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i lansio ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau ailgylchu a gwastraff yn y sir.

Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i lywio cynllun pum mlynedd newydd ar gyfer ailgylchu a gwastraff yn Sir Ddinbych, gan ofyn i drigolion am eu barn ar gynigion sy'n ymwneud ag atal a lleihau gwastraff, atgyweirio ac ailgylchu.

Meddai Darren:

"Mae ailgylchu yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn Sir Ddinbych, felly rwy'n croesawu penderfyniad y cyngor i ymgynghori â thrigolion wrth iddo ddatblygu ei gynllun pum mlynedd newydd.

"Roedd cyflwyno newidiadau i gasgliadau gwastraff cartrefi Cyngor Sir Ddinbych yn ôl yn 2024 yn draed moch ac, er bod y system wedi gwella ers hynny, mae problemau o hyd gydag ansawdd bagiau ailgylchu, ffioedd am rai newydd, a heriau i'r rhai sydd ag ychydig neu ddim lle ar eu heiddo i storio biniau.

"Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i drigolion fynegi eu barn ar y materion hyn a materion eraill, gan gynnwys yr hyn maen nhw'n credu sydd angen ei newid.

"Rydw i am annog pobl ledled Sir Ddinbych i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed."

Mae'r ymgynghoriad yn agored i holl drigolion Sir Ddinbych tan ddydd Sul 18 Hydref 2026. Gall trigolion ddarllen mwy ac ymateb gan ddefnyddio'r ddolen isod:

Ailgylchu a gwastraff yn Sir Ddinbych: ein cynllun pum mlynedd ar gyfer 2027-2032 | Cyngor Sir Ddinbych 

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Cynlluniau Parc Cenedlaethol wedi'u rhoi o’r neilltu

Dydd Iau, 15 Hydref, 2026
Yn y Senedd yr wythnos hon, croesawodd AS Clwyd, Darren Millar, y penderfyniad i oedi cynlluniau ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yn y Gogledd-ddwyrain.Roedd Darren wedi cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddweud y dylai unrhyw barc cenedlaeth

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree