
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi condemnio tro pedol diweddaraf y llywodraeth Lafur ar daliadau tanwydd y gaeaf, gan ddisgrifio’r cam fel gweithred 'rheoli difrod' sy'n tanlinellu methiant parhaus Llafur i gefnogi pensiynwyr yn effeithiol.
Y llynedd, arweiniodd penderfyniad Llafur i dorri taliad tanwydd y gaeaf at dros 10 miliwn o bensiynwyr yn colli cymorth ariannol hanfodol. Arweiniodd y polisi gwael hwn at galedi eang, gan adael llawer o drigolion oedrannus yn cael trafferth ymdopi â chostau ynni cynyddol.
Gan gyfeirio at hyn, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae tro pedol diweddaraf Llafur yn tynnu sylw at blaid mewn cawl, yn llawn panig wrth geisio clirio eu llanast eu hunain.
"Mae'r Ceidwadwyr wedi rhybuddio'r Prif Weinidog droeon y byddai'r penderfyniad creulon hwn i dynnu taliadau tanwydd gaeaf yn ôl gan bensiynwyr yn cael effaith ddinistriol ar y rhai mwyaf agored i niwed. Eto, er gwaethaf y rhybuddion hyn, bwrw mlaen wnaethon nhw.
"Y gaeaf diwethaf, gorfodwyd pensiynwyr i ddewis rhwng gwresogi a bwyta. Dylai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ymddiheuro, fel y dylai Prif Weinidog Cymru am gadw rhan y penderfyniad cywilyddus."