Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

"Tynnu cynigion i gau Gofal Iechyd Cefndy yn ôl"

  • Tweet
Dydd Mercher, 3 Medi, 2025
  • Newyddion Lleol
cefndy Healthcare

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn annog Cyngor Sir Ddinbych i dynnu cynigion i gau Gofal Iechyd Cefndy yn y Rhyl yn ôl.

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych ddoe (dydd Mawrth) fod dyfodol y fenter, sy'n cyflogi llawer o bobl anabl, yn cael ei adolygu.

Cafodd gweithwyr y ganolfan wybod yn y bore, ac yn y prynhawn cynhaliwyd gweithdy lle rhoddwyd cyflwyniad i aelodau Cyngor Sir Ddinbych ar hyfywedd y ganolfan yn y dyfodol (a elwid gynt yn Mentrau Cefndy).

O fewn oriau i'r cyhoeddiad, roedd nifer o weithwyr anabl pryderus eisoes wedi cysylltu â Darren.

Meddai Darren:

"Roeddwn i'n bryderus iawn o glywed bod dyfodol Gofal Iechyd Cefndy yn cael ei adolygu.

"Mae'r fenter hon yn cyflogi llawer o bobl anabl, gan roi urddas gwaith iddyn nhw a'u helpu i hyrwyddo a chynnal eu hannibyniaeth.

"Mae nifer o bobl anabl sy'n gweithio yno eisoes wedi cysylltu â mi ac maen nhw’n poeni’n fawr am eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghydweithwyr a minnau yn clywed gan fwy yn y dyddiau nesaf.

"Mae'r ganolfan hon yn achubiaeth go iawn i'r bobl anabl ac eraill sy'n gweithio yno, gan roi ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas iddyn nhw. Mae'n fwy na dim ond cyflogaeth, mae'n lle sy'n trawsnewid bywyd; rhaid i'r cyngor ystyried hynny o ddifrif cyn gwneud penderfyniad byrbwyll.

"Rwy'n erfyn arnyn nhw felly i dynnu'r cynigion hyn yn ôl a chymryd yr amser i ystyried pob opsiwn amgen a allai ddiogelu'r cyfleoedd cyflogaeth hanfodol hyn i bobl anabl lleol."

Dywedodd Arweinydd y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Brian Jones, a fynychodd y gweithdy ddoe ac a heriodd swyddogion ynglŷn â'r cau:

"Unwaith eto, mae'r cyngor yn cynhyrfu’r dyfroedd go iawn gyda ni ar y meinciau cefn ychydig wythnosau yn unig cyn i benderfyniad gael ei wneud, gan adael bron dim amser i ni archwilio opsiynau hyfyw ar gyfer cadw'r ganolfan hanfodol hon ar agor.

"Mae disgwyl i’r cynnig hwn fynd gerbron Cabinet Sir Ddinbych ar 23 Medi, sydd dim ond tair wythnos i ffwrdd! Ni ddylid rhuthro penderfyniadau fel hyn, yn enwedig pan fo bywoliaeth a llesiant gweithwyr agored i niwed yn y fantol."

You may also be interested in

Free entry to attractions and heritage sites supported by the National Lottery

Free entry to attractions and heritage sites supported by the National Lottery

Dydd Gwener, 6 Chwefror, 2026
Clwyd West MS Darren Millar is encouraging people to take advantage of an annual campaign which will allow them free entry during a week in March to a number of visitor attraction sites in North Wales.National Lottery Open Week, which will run from Saturday 7 to Sunday 15 March 2026, allows National

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2026 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree