Mae buddsoddiad mawr mewn parc gwyliau ym Mae Cinmel wedi cael ei ganmol gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, a gafodd ei blesio gan y cyfleusterau newydd a welodd yno’n ddiweddar.
Mae Sunnyvale Holiday Village wedi buddsoddi mwy na £1.5 miliwn yn eu campfa newydd, sba, ystafell driniaeth, neuadd chwaraeon, swyddfa a lolfa i berchnogion.
Maen nhw hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan dîm busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer grant i ariannu’n rhannol baneli solar ar y to, a gan Busnes Cymru. Mae’r paneli yn cynhyrchu digon o ynni i bweru’r adeilad yn ystod oriau golau dydd.
Ymwelodd Darren â’r pentref gwyliau yn ddiweddar a chafodd daith o gwmpas y safle gan berchennog y parc gwyliau, Rob Jones.
Wrth siarad wedyn, dywedodd:
“Mae Sunnyvale Holiday Village mewn lleoliad ysblennydd ger y môr ac mae bob amser yn bleser ymweld â’r lle.
“Ers y tro diwethaf i mi fod yno mae llawer wedi’i wneud i roi hwb pellach i apêl y parc.
“Mae’r cyfleusterau newydd yn wirioneddol drawiadol ac mae unrhyw un sy’n bwriadu mwynhau gwyliau yno eleni yn mynd i gael amser i’r brenin.
“Bydd y rhai sy’n hoffi cadw’n heini tra ar eu gwyliau wrth eu bodd gyda’r gampfa newydd, ac rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr hefyd yn mwynhau yn y sba ac yn yr ystafell driniaeth.
“Mae’n dda gweld busnesau teuluol a sefydledig yn buddsoddi ac yn gwella’r hyn maen nhw’n ei gynnig i’w cwsmeriaid, a chlywais fod y cyfleusterau newydd eisoes wedi cael croeso cynnes gan bobl leol a pherchnogion carafanau a chabanau ar y safle.
“Roeddwn i hefyd yn falch o glywed eu bod wedi defnyddio cyflenwyr lleol pan fo hynny’n bosib i wneud y gwaith.”
Ychwanegodd:
“Mae Sunnyvale yn gaffaeliad heb ei ail i’r Gogledd ac ar ôl gweld popeth maen nhw wedi’i wneud i wella’r pentref gwyliau, rwy’n hyderus y bydd y parc yn parhau i fynd o nerth i nerth.
“Diolch i Rob a’i dîm am fy ngwahodd i ymweld â nhw a dymuniadau gorau iddyn nhw ar gyfer tymor prysur yr haf sydd o’n blaenau.”