Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi canmol grwpiau cadetiaid mewn lifrai ledled Cymru ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn ehangu mynediad at y cyfleoedd maen nhw'n eu darparu.
Wrth nodi Wythnos Genedlaethol y Cadetiaid rhwng 5 ac 11 Hydref, tynnodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sylw at ymrwymiad maniffesto'r blaid i hyrwyddo grwpiau cadetiaid newydd mewn ysgolion a Chymwysterau Galwedigaethol Cadetiaid.
Nododd ymchwil a gyhoeddwyd yn 2024, Getting an Edge: The Impact and Value of the Cadet Forces in Wales, fanteision ar gyfer canlyniadau addysgol, cyflogadwyedd a symudedd cymdeithasol, yn enwedig i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig.
Canfu'r adroddiad hefyd fod cyfranogiad ymhlith plant oedran ysgol uwchradd yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU.
Meddai Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:
"Mae grwpiau cadetiaid yn darparu cyfleoedd gwych i bobl ifanc fagu hyder, dysgu sgiliau ymarferol a datblygu gwaith tîm, disgyblaeth ac ymdeimlad o wasanaeth i'w cymunedau.
"Mae Wythnos Genedlaethol y Cadetiaid yn gyfle i ddathlu ein cadetiaid a diolch i'r gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n rhoi o’u hamser i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial.
"Mae'r ymchwil yn dangos y gwahaniaeth y gall grwpiau cadetiaid ei wneud i ragolygon addysg a chyflogaeth, yn enwedig i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig.
"Mae ein maniffesto wedi ymrwymo i hyrwyddo grwpiau cadetiaid newydd mewn ysgolion a Chymwysterau Galwedigaethol Cadetiaid oherwydd ein bod am i fwy o bobl ifanc ledled Cymru elwa ar y cyfleoedd hyn.
"Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag ysgolion a sefydliadau cadetiaid i sefydlu mwy o grwpiau ac ariannu mynediad at gymwysterau gwerthfawr.
"Mae buddsoddi yn ein cadetiaid yn golygu buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf. Dylai Gweinidogion gefnogi'r cyfleoedd hyn gyda chymorth ymarferol fel y gall mwy o bobl ifanc gymryd rhan."
