
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am bleidlais orfodi yn Senedd Cymru ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru.
Disgwylir i'r cynllun newydd gael ei gyhoeddi'r haf hwn. Roedd dicter ar draws Cymru wledig yn dilyn cyhoeddi'r cynllun blaenorol, a luniwyd gan Lafur a Phlaid Cymru fel rhan o'u 'Cytundeb Cydweithio'. Byddai'r cynlluniau wedi arwain at ostyngiad yn nifer y da byw yng Nghymru o dros 120,000, colli pum mil a hanner o swyddi ar ffermydd Cymru, colled o £200 miliwn i'r economi wledig, a thargedau plannu coed a bioamrywiaeth afrealistig.
Wrth siarad ar ôl Cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi methu ein sector amaethyddol trwy gefnogi Treth Ffermydd Teuluol Llafur a chynnig cynllun ffermio newydd a fyddai wedi dinistrio ein cefn gwlad.
"Mae'n hanfodol bod y cynllun nesaf yn ennyn hyder ffermwyr a’r Gymru wledig felly mae'n rhaid cynnal pleidlais orfodi yn y Senedd ar y cynigion.
"Mae pob Aelod yn haeddu dweud ei ddweud ar fater mor bwysig. Er bod y Prif Weinidog yn osgoi ei chyfrifoldeb heddiw, bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn sefyll i fyny dros ein ffermwyr - oherwydd mae dim amaeth yn golygu dim maeth a dim dyfodol."