Mae Swyddfeydd Post yn chwarae rôl hanfodol o fewn cymunedau ledled y DU ac yn darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau post, bancio, talu biliau a cheisiadau am basbort.
O ran cymunedau gwledig, yn aml nhw yw'r unig bwynt mynediad lleol at wasanaethau hanfodol.
Gyda phoblogaeth wledig mor fawr yng Nghymru, mae Swyddfeydd Post yn bwysicach fyth i gwsmeriaid sy'n dibynnu arnyn nhw ar gyfer eu hanghenion post a bancio.
Felly, mae’n peri pryder mawr bod Llywodraeth y DU yn bygwth cau Swyddfeydd Post ledled y wlad.
Gallai eu cynlluniau i ddileu amddiffyniadau ar gyfer Swyddfeydd Post lleol adael ein cymunedau gwledig wedi'u hynysu yng Nghymru.
Gallai pobl gael eu gorfodi i deithio 10,15, hyd yn oed 20 milltir dim ond i gyrraedd eu Swyddfa’r Post agosaf – yn aml ar lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus gwael neu ddim o gwbl.
Mae hynny'n golygu colli oriau, costau ychwanegol, ac i lawer, gorfod ymdopi heb y gwasanaethau maen nhw'n dibynnu arnyn nhw.
Mae banciau eisoes wedi gadael llawer o strydoedd mawr ac, mewn sawl rhan o Gymru wledig, Swyddfa'r Post yw'r unig le sydd ar ôl i godi arian parod, i gael pensiynau ac i anfon parseli i fusnesau lleol.
Mae angen i'r Llywodraeth Lafur gofio bod Swyddfeydd Post gwledig ledled Cymru yn fwy na dim ond lle i bostio parsel. I lawer, yn enwedig pobl hŷn a'r rhai sy’n agored i niwed, maen nhw’n ganolfannau cymunedol hanfodol, rhywle y gallan nhw ryngweithio ag eraill a chadw mewn cysylltiad.
Mae'n hawdd tanamcangyfrif pwysigrwydd emosiynol y lleoedd hyn nes eu bod wedi mynd.
Mewn cymdeithas lle mae unigrwydd ac ynysu ar i fyny, yn enwedig mewn cymunedau anghysbell, mae Swyddfa'r Post yn achubiaeth go iawn.
Rhaid i ni hefyd gadw mewn cof y ffaith eu bod yn creu swyddi, yn aml yn cyflogi staff lleol ac yn helpu i gadw arian yn yr economi leol.
Yn hytrach na chau Swyddfeydd Post, dylen ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu i amrywio eu harlwy, o bosibl trwy ddarparu gwasanaethau ychwanegol fel gofal iechyd neu ofal cymdeithasol.
Gallai hyn helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Swyddfeydd Post, gan ddarparu ystod ehangach o wasanaethau i gymunedau lleol.
Er fy mod yn gwerthfawrogi bod modd gwneud llawer mwy o bethau ar-lein y dyddiau hyn, rhaid i ni gofio bod gwasanaeth band eang mewn ardaloedd yng nghefn gwlad Cymru yn dal i fod yn wan iawn.
Hefyd, rhaid i ni beidio ag anghofio bod yna lawer o drigolion hŷn sydd naill ai heb fynediad i’r rhyngrwyd neu'n cael trafferth ei ddefnyddio. Mae trigolion hŷn yn cysylltu â mi yn rheolaidd yn fy annog i amddiffyn gwasanaethau wyneb yn wyneb.
Trwy gydol fy mlynyddoedd lawer fel AS, rydw i wedi brwydro i ddiogelu gwasanaethau banc - roeddwn i wrth fy modd pan wnaeth fy ngalwadau am ganolfan fancio yn Abergele ddwyn ffrwyth - ac rydw i bob amser wedi brwydro i amddiffyn ein Swyddfeydd Post hefyd.
Unwaith y bydd swyddfa’r post yn cau, anaml y mae'n ailagor, ac yn anffodus mae cymuned yn colli ychydig o'i henaid.
Gyda chwarter y swyddfeydd post yn cael eu hystyried fel "y siop olaf yn y pentref", byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi ein Postfeistri a helpu i sicrhau cynaliadwyedd y Rhwydwaith Swyddfeydd Post, ac rwy'n eich annog i gyd i chwarae eich rhan trwy wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio Swyddfa’r Post leol.
Gallwch hefyd helpu i atal swyddfeydd post rhag cau trwy gefnogi ein deiseb 'Save Your Post Office' www.whatlaboursaid.com/save-your-post-office