Ar 5 Gorffennaf 1948, cerddodd Aneurin Bevan, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, i mewn i Park Hospital Manceinion i lansio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda'r uchelgais i ofalu am bobl "o'r crud i'r bedd".
Cyn ei greu, roedd rhaid i gleifion dalu am eu gofal iechyd yn fwy na heb, ac roedd ysbytai yn cael eu rhedeg i raddau helaeth gan elusennau neu awdurdodau lleol.
Rydym wedi cymryd camau breision ers hynny, ac er ein bod yn hynod ffodus yma yn y DU i gael Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nid yw'n cyflawni fel y dylai dros gleifion yng Nghymru yn anffodus.
Yr wythnos diwethaf, datgelodd ystadegau diweddaraf y GIG yng Nghymru fod rhestrau aros am driniaeth y GIG wedi cynyddu i 796,100, sy'n cyfateb i bron i 1 o bob 4 o Gymry.
Mae nifer y cleifion GIG sy'n aros am ddwy flynedd neu fwy am driniaeth wedi codi eto i 10,300 yng Nghymru, o'i gymharu â dim ond 158 yn Lloegr, sydd â phoblogaeth bron i 19 gwaith yn fwy.
Yn y cyfamser, mae amseroedd aros coch ambiwlans yn parhau'n fater o lwc i gleifion, gyda dim ond 50.7% o alwadau coch (y mwyaf difrifol) yn derbyn ymateb brys / ambiwlans o fewn wyth munud.
Mae cleifion yn marw wrth aros am oriau i barafeddygon eu cyrraedd. Ac os ydyn nhw'n ddigon ffodus i gael ambiwlans, mae rhai yn marw y tu allan i ddrysau ffrynt yr ysbyty, yn disgwyl yng nghefn ambiwlans heb unrhyw urddas yn y byd, am oriau lawer. Mae rhai pobl sy'n mynd trwy ddrws ffrynt yr adran achosion brys yn eistedd yn gwingo mewn poen am oriau ar seddi plastig caled cyn cael eu gweld yn iawn er mwyn penderfynu ar eu sefyllfa a chael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.
Mae gwasanaethau meddygon teulu Cymru wedi'u gorlethu hefyd. Rydym wedi colli bron i 20% o'n meddygfeydd teulu mewn degawd ac erbyn hyn mae gennym fwy na 2,200 o gleifion fesul meddyg teulu yng Nghymru - dwbl y cyfartaledd Ewropeaidd.
Ar ben hyn, mae gennym wasanaeth deintyddol yng Nghymru sy'n methu llawer o'n cleifion hefyd. Mae rhai pobl yn troi at ddefnyddio gefail i dynnu eu dannedd eu hunain allan am nad ydyn nhw'n gallu cofrestru gyda deintydd y GIG, mae rhai yn talu am driniaeth breifat dramor, eraill yn teithio cannoedd o filltiroedd yr holl ffordd i'r Alban o Gymru oherwydd dyna'r unig le maen nhw'n gallu cofrestru gyda deintydd y GIG o hyd.
Mae pobl o bob cwr o'r wlad yn cysylltu â mi byth a hefyd i rannu profiadau gwael cleifion gyda mi; mae'n amlwg bod gormod o gleifion a staff yn cael eu methu.
Mae'r gwasanaeth yn methu targedau ar gyfer triniaeth canser, amseroedd aros, perfformiadau brys ac ambiwlansys yn rheolaidd, a digwyddiadau critigol yn cael eu datgan gan ein gwasanaeth ambiwlans a'n hysbytai.
Yn fwy lleol, er gwaethaf gwaith da staff y Bwrdd Iechyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig ers 10 mlynedd ac mae'n ymddangos bod pethau'n dal i waethygu mewn sawl maes.
Yn ddiweddar yn Siambr y Senedd, galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am ddatgan argyfwng iechyd, er mwyn sicrhau bod adnoddau ac ymdrechion y Llywodraeth gyfan wedi'u targedu at leihau'r amseroedd aros gormodol hyn a gwella gwasanaethau.
Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd. Yn 2021, datganodd argyfwng natur. Nawr, mae ond yn iawn ein bod ni'n datgan argyfwng iechyd, ond, yn rhwystredig, fe bleidleisiodd Llafur yn erbyn ein cynnig.
Nid yw datgan argyfwng iechyd yn golygu hawlio'r penawdau yn unig - mae'n ymwneud â bod yn onest, gweithredu ar frys, a gwneud beth sy'n iawn. Mae'n golygu darparu gwasanaethau iechyd a thriniaethau y gall cleifion Cymru ddibynnu arnynt.
Felly ni fyddwn yn rhoi'r ffidil yn y to - a byddwn yn parhau i wthio am argyfwng iechyd yng Nghymru - fel arall, byddwn yn methu yn ein dyletswydd dros bobl Cymru.