Mae Aelod o'r Senedd wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i gyflawni'n llawn ei chynlluniau ar gyfer ysbyty newydd yn y Rhyl i wasanaethu rhanbarth y Gogledd.
Mewn llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, tynnodd AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, sylw at yr angen brys i gyflwyno cyfleuster newydd i leddfu'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd, a beirniadodd y gostyngiad yn nifer y gwelyau a gynigiwyd ar gyfer y datblygiad.
Roedd cynlluniau a ddatgelwyd yn 2013 yn cynnig cyfleuster 30 gwely, gan gynnwys 18 gwely cleifion mewnol i bobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl, ynghyd ag adran pelydr-x, cyfleusterau uwchsain a fferyllfa, ac Uned Mân Anafiadau. Fodd bynnag, roedd cynlluniau diwygiedig a gyhoeddwyd y llynedd yn cynnig datblygiad llai o 14 gwely.
Er i’r cynigion gwreiddiol gael eu datgelu 13 mlynedd yn ôl, nid yw'r gwaith adeiladu ar yr ysbyty newydd wedi dechrau eto, er bod ysbytai newydd wedi'u hadeiladu mewn mannau eraill yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Darren a chynrychiolwyr etholedig lleol eraill y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn pwyso'n barhaus ar Lywodraeth Cymru i gyflawni'r prosiect, ond mae'r cynnydd wedi bod yn gyfyngedig.
Yn ei lythyr, nododd Darren ei bryder bod ysbyty cymunedol sydd â nifer mor gyfyngedig o welyau mewn perygl o fethu â chyflawni ei rôl fwriedig.
Ychwanegodd: "Yn hytrach nag ysgafnhau'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd, mae perygl gwirioneddol y bydd diffyg capasiti yn cyfyngu ar ei effeithiolrwydd ac yn ychwanegu pwysau pellach at y problemau staffio rydyn ni eisoes yn eu profi."
Meddai Darren:
"Mae capasiti gofal iechyd yn y Gogledd yn cael ei ymestyn i’r eithaf. Mae cleifion yn aros mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am ddiwrnodau ac yn aros ar restrau aros am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Yn syml, mae angen mwy o welyau arnom ni.
"Mae'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn y Gogledd yn llawer mwy nag yr oedd pan gynigiwyd yr ysbyty newydd yn wreiddiol, felly mae'r ffaith bod y cynlluniau wedi'u hisraddio yn gwbl annerbyniol.
"Er bod yr ysbyty newydd wedi cael caniatâd cynllunio erbyn hyn, mae ei faint yn cael ei gyfyngu gan gyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i Weinidogion sicrhau bod digon o adnoddau yn cael eu dyrannu i'r prosiect hwn, er mwyn sicrhau bod anghenion gofal y rhanbarth yn cael eu diwallu.
"Byddaf yn parhau i herio penderfynwyr ar bob lefel nes ein bod yn gweld cynnydd gwirioneddol ar ddarparu'r cyfleuster hanfodol hwn." Gellir darllen llythyr Darren at Lywodraeth Cymru yn llawn yma.
ENDS