Ar ôl treulio blynyddoedd yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Llafur Cymru i ddarparu Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu'r oedi gan ddweud ei fod yn gwbl annerbyniol.
Codwyd amheuon am y cynlluniau ar gyfer Ysbyty Cymuned hirddisgwyliedig Gogledd Sir Ddinbych, a oedd i'w adeiladu ar safle hanesyddol Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn dilyn cyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym Mhencadlys Cyngor Sir Ddinbych yn Rhuthun ym mis Gorffennaf.
Roedd disgwyl cais cynllunio ar gyfer y datblygiad diwygiedig rhwng mis Mawrth a mis Awst eleni, ond ni chyflwynwyd unrhyw gais - er bod y prosiect wedi cael ei ohirio am fwy na degawd.
Mae Gareth Evans, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig Ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bellach wedi cadarnhau bod y bwrdd iechyd yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio o fewn y mis nesaf”.
Wrth ymateb, dywedodd Darren:
"Mae'r oedi wrth ddarparu ysbyty newydd yn y Rhyl yn gwbl annerbyniol.
"Dydy trigolion lleol ddim yn barod i gael eu trin fel ffyliaid. Cafwyd addewid o ysbyty 12 mlynedd yn ôl ac mae'n rhaid ei ddarparu. Rydym wedi cael llond bol ar addewidion yn cael eu hailadrodd cyn etholiadau sydd wedyn yn cael eu taflu o’r neilltu gan Weinidogion Llafur yn y Senedd.
"Er gwaethaf ymdrechion staff gweithgar, mae Ysbyty Glan Clwyd dan bwysau mawr gyda gwelyau annigonol ac adran frys sy'n perfformio'n wael iawn. Roedd yr ysbyty newydd i fod i gynnig ateb i'r heriau hyn sy'n achosi i staff ddioddef yn sgil gorweithio a niwed i gleifion.
"Mae'r pwysau ym Modelwyddan yn waeth nawr nag erioed, felly byddai unrhyw gynlluniau i lastwreiddio’r prosiect gwreiddiol yn y Rhyl yn bradychu pobl leol.
"Mae ysbyty newydd wedi cael ei adeiladu yn y De, ac mae ail ysbyty wrthi’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.
"Mae angen buddsoddiad ar y Gogledd hefyd."
