Skip to main content

Darren Millar

Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

AS yn galw am wrthod cynigion ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd

  • Tweet
Dydd Mercher, 24 Medi, 2025
  • Newyddion Lleol
National Park

Gyda'r ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer Parc Cenedlaethol arfaethedig Glyndŵr bellach ar agor, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi amlinellu pam mae’n galw am eu gwrthod.

Ar hyn o bryd, mae pobl yn cael eu hannog i rannu eu barn am y Parc Cenedlaethol arfaethedig, a fydd yn cwmpasu rhannau o Sir Ddinbych a Gwynedd wledig.

Lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyfnod ymgynghori statudol o 12 wythnos ar 15 Medi.

Yn ei ymateb ei hun, mae Darren wedi galw am ddileu’r cynigion fel y maent ar hyn o bryd.

Wrth sôn am hyn, dywedodd Darren:

"Fel y bydd llawer o bobl yn gwybod, rydw i bob amser wedi bod o blaid yr egwyddor o sefydlu parc cenedlaethol newydd yn y Gogledd-ddwyrain ond ni allaf gefnogi'r cynigion sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd.

"Mae fy nghefnogaeth bob amser wedi bod yn amodol ar ddau beth.

"Yn gyntaf, dylai ffiniau parc cenedlaethol newydd gyd-fynd ag Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol presennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

"Ac yn ail, yn hytrach na sefydlu Awdurdod Parc Cenedlaethol costus a biwrocrataidd newydd, dylai Llywodraeth Cymru roi'r cyfrifoldeb am reoli’r dynodiad Parc cenedlaethol i gynghorau a chynghorwyr lleol, sy'n uniongyrchol atebol i'r rhai maen nhw'n eu gwasanaethu, fel sy'n wir ar hyn o bryd am yr AHNE.

"Nid yw'r cynigion a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghori yn bodloni'r amodau hyn felly, ar y sail honno, rhaid eu gwrthod."

Anogir aelodau o'r cyhoedd, sefydliadau a rhanddeiliaid i fynychu digwyddiad, archwilio'r cynnig a dweud eu dweud trwy ymateb i'r ymgynghoriad.

I ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i: Ymgynghoriad Statudol Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr Gorchymyn (Dynodi) 2025 - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space.

Rhaid i ymatebion ddod i law erbyn y dyddiad cau o 8 Rhagfyr.

 

You may also be interested in

More children from Armed Forces and veteran families now able to access support

Mwy o blant o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr bellach yn gallu cael gafael ar gymorth

Dydd Mawrth, 7 Ebrill, 2026
Fel eiriolwr brwd dros blant a theuluoedd y lluoedd arfog yng Nghymru, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion y bydd mwy o blant a phobl ifanc o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr yn gallu cael gafael ar help.Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ehangu'r diffi

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar. All rights reserved.
Powered by Bluetree