Wrth siarad mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn ddoe ynglŷn â chynlluniau i adeiladu hyd at 500 o dai yn Hen Golwyn, addawodd AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, weithio gyda thrigolion lleol i wrthwynebu'r cynigion.
Mae’r datblygwyr Castle Green yn gobeithio adeiladu cannoedd o gartrefi newydd ar Gaeau Peulwys a rhan o Gwrs Golff Hen Golwyn.
Fodd bynnag, mae trigolion yn poeni am raddfa'r cynlluniau a, neithiwr, daethant at ei gilydd yn Neuadd yr Eglwys Fethodistaidd yn Hen Golwyn i ddweud eu dweud.
Maen nhw'n poeni y byddai'r datblygiad yn rhoi straen enfawr ar feddygfeydd, ysgolion, ffyrdd, seilwaith arall a gwasanaethau brys sydd eisoes wedi'u gorymestyn.
Ymhellach, mae pryderon am golli tir amaethyddol o ansawdd uchel ac ofn na fydd yr ardal yn gallu darparu ar gyfer yr holl draffig ychwanegol y bydd y datblygiad yn ei achosi.
Trefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas Trigolion Hen Golwyn ac fe'i cadeiriwyd gan y preswylydd lleol Merfyn Thomas.
Cafwyd cyflwyniadau gan aelod o bwyllgor Cymdeithas Trigolion Hen Golwyn, Brian Cossey, a James Harland, Rheolwr Polisi Cynllunio Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, cyn gwahodd cwestiynau o'r llawr.
Fe wnaeth Darren a'r Cynghorydd Cheryl Carlisle annerch y cyfarfod hefyd ac addo gweithio gyda thrigolion i wrthwynebu'r cynigion.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
"Roedd yn gyfarfod cyhoeddus dan ei sang sy'n dangos cryfder y teimlad yn y gymuned ynglŷn â'r cynigion hyn.
"Roeddwn i'n falch o gael y cyfle i siarad a rhoi gwybod i'r trigolion fy mod i 100 y cant o’u plaid ac y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar y gwrthwynebiadau cryf i ddyrannu'r tir hwn ar gyfer datblygu.
"Does yna’r un ohonom ni yn erbyn adeiladu cartrefi newydd - yr hyn rydyn ni'n ei wrthwynebu yw ystafelloedd dosbarth gorlawn, amseroedd aros hirach am apwyntiad gyda'n meddyg teulu a thagfeydd ar y ffyrdd.
"Byddai datblygiad o'r raddfa hon yn rhoi straen enfawr ar ein seilwaith ac yn erydu cymeriad y gymuned leol yn Hen Golwyn.
"Byddaf yn parhau i gefnogi trigolion i wrthwynebu'r cynnig hwn."
Meddai'r Cynghorydd Cheryl Carlisle:
"Roedd hwn yn gyfarfod cyhoeddus dan ei sang ac roedd hi’n amlwg bod trigolion yn bryderus iawn am faint y datblygiad hwn.
"Fel y dywedon ni wrth y rhai yn y cyfarfod, byddwn yn parhau i sefyll ochr yn ochr â thrigolion i herio'r cynigion hyn."
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar Gynllun Datblygu Lleol Conwy yn dechrau ar 13 Hydref 2025 ac anogir trigolion i ymateb. Cynhelir cyfarfodydd pellach yn Hen Golwyn i sicrhau cymaint o ymatebion â phosibl.
