Wrth siarad yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â'r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yn y Senedd yr wythnos hon, anogodd AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yr Aelodau i wrthod cydsyniad " er mwyn y bregus, er mwyn uniondeb ein proffesiwn meddygol, ac o barch at sancteiddrwydd bywyd dynol ".
Ddydd Mawrth pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd o blaid cefnogi'r cynlluniau, a fyddai'n caniatáu i weinidogion Cymru lunio sut y gallai gwasanaethau marw â chymorth weithredu yn y GIG yng Nghymru pe bai deddfwriaeth y DU ar y mater yn cael ei gymeradwyo.
Pasiwyd y cynnig o 28 pleidlais i 23, gyda 2 yn ymatal.
Wrth amlinellu ei reswm dros bleidleisio yn ei erbyn, dywedodd Darren;
“Fel y gŵyr llawer ohonoch chi, mae fy ngolwg ar y byd wedi'i wreiddio gan fy ffydd Gristnogol, ac rwy'n credu bod pob bywyd dynol yn rhodd sydd ag urddas cynhenid nad yw'n lleihau gyda salwch, anabledd neu oedran.
“Sancteiddrwydd bywyd yw conglfaen ein holl foesoldeb meddygol, ac felly y bu hi ers amser maith. Ac fel mater o gydwybod, felly, ni allaf gefnogi fframwaith sy'n trin rhai bywydau fel llai teilwng o amddiffyniad nag eraill.
“Nid wyf ar fy mhen fy hun yn yr argyhoeddiad hwn. Dim ond y mis hwn, cyhoeddwyd datganiad hanesyddol ar y cyd gan arweinwyr ffydd ledled Cymru sy'n cynrychioli'r cymunedau Cristnogol, Iddewig, Mwslimaidd, Hindŵaidd a Sikh. Ac maen nhw wedi siarad gydag un llais i rybuddio am oblygiadau difrifol iawn posib y gyfraith hon ar bobl agored i niwed.”
Dywedodd Darren fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd yn poeni.
Meddai:
“Mae'r Gymdeithas Feddygaeth Liniarol, sy'n cynrychioli'r rhai sy'n gofalu am y rhai sy'n marw bob dydd, yn parhau i wrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon, fel ag y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Maen nhw wedi cynnal safbwynt o wrthwynebiad, gan nodi'r risg annerbyniol i'r berthynas rhwng y meddyg a'r claf.
“Ac yna mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Maen nhw wedi codi pryderon am ddiffyg mesurau diogelu i'r rhai sydd ag iechyd meddwl gwael.
“Nawr, pan fydd yr arbenigwyr mewn iechyd a gofal diwedd oes yn dweud wrthym ni y bydd hyn yn niweidio'r ymddiriedaeth rhwng clinigydd a chlaf yn sylfaenol, mae'n ddyletswydd arnom ni i wrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud.”
Mynegodd Darren bryder hefyd fod gofyn i Aelodau o'r Senedd roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil sy'n dal i symud trwy Senedd y DU.
Ychwanegodd:
“Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi, mae dros 1,000 o welliannau sy'n dal i gael eu hystyried, ac ni allaf helpu ond teimlo bod gofyn i ni lofnodi siec wag i bob pwrpas.
I gloi, dywedodd:
“Blaenoriaeth y wladwriaeth, yn fy marn i, ddylai fod i gefnogi pobl ar ddiwedd eu hoes, i leddfu dioddefaint, nid eu helpu i gyflawni hunanladdiad.
“Rydym ni'n wynebu dewis yn y Senedd hon ynghylch sut rydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus. Mae hosbisau yng Nghymru yng nghanol argyfwng ariannu, ac rwy'n credu y dylem ni ddefnyddio arian trethdalwyr i sicrhau bod cymaint o bobl yng Nghymru â phosibl yn cael mynediad at y gofal lliniarol o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu, gan gadarnhau eu hurddas, urddas pob person yn y wlad hon, hyd at eu hanadl naturiol olaf.
“Felly, er mwyn y bregus, er mwyn uniondeb ein proffesiwn meddygol, ac o barch at sancteiddrwydd bywyd dynol, rwy'n annog Aelodau i wrthod cydsynio i'r Bil diffygiol, peryglus ac anghyflawn hwn.”
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: