Wrth ymateb i'r newyddion bod Cyngor Sir Conwy ar fin lansio ymgynghoriad cyhoeddus gwerth £18,000 ar gynlluniau i gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y Fwrdeistref Sirol, mae AS Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu’r effaith ddinistriol y gallai treth twristiaeth ei chael ar yr economi leol.
Mae deddf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi rhoi'r gallu i gynghorau lleol godi tâl ar bobl sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr.
Mae Darren wedi bod yn erbyn y dreth ers iddi gael ei thrafod gyntaf ac mae wedi tynnu sylw dro ar ôl tro yn y Senedd at yr effaith niweidiol y bydd yn ei chael ar y Gogledd, sy'n dibynnu ar dwristiaeth.
Mae wedi pwysleisio y bydd yn taro pocedi teuluoedd sy’n gweithio’n galed, ac yn eu hatal rhag cael gwyliau yn y Gogledd.
Wrth ymateb i benderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr wythnos hon i wario £18,000 ar ymgynghoriad, dywedodd:
"Rydw i wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cyflwyno treth twristiaeth yng Nghymru ers i'r Llywodraeth Lafur flaenorol awgrymu'r syniad, felly roeddwn i wedi gobeithio na fyddai Awdurdodau Lleol yn y Gogledd yn dilyn y trywydd hwn.
"Mae gan y dreth y potensial i ddifetha ein heconomi ymwelwyr ac annog twristiaid i fynd ar eu gwyliau i rywle arall, gan achosi pryder i sector pwysig sy'n cyflogi nifer enfawr o bobl ledled Cymru.
"Mae unrhyw beth sy'n gwthio cost gwyliau i fyny i deuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth gyda heriau costau byw yn beth gwael.
"Mae'r bobl sy'n ymweld â Chonwy a rhannau eraill o’r Gogledd yn aml yn ymwelwyr sy'n sensitif i brisiau. Os daw rhywun ar wyliau a’i fod yn costio £84 ychwanegol iddynt am bythefnos i deulu o bedwar, mae hynny'n arian na ellir ei wario mewn siopau a busnesau lleol, a gallai ymwelwyr benderfynu cymryd gwyliau byr yng ngogledd-orllewin Lloegr yn hytrach nag yma yn y Gogledd.
"Yn dilyn y newyddion yr wythnos hon am yr ymgynghoriad, rydw i eisoes wedi gweld postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan bobl sydd wedi dweud y byddan nhw'n diystyru ymweld â Chonwy os yw'n mynd i gostio mwy iddyn nhw, a hefyd gan berchnogion llety gwyliau sydd wedi rhybuddio am yr effaith negyddol y gallai ei chael ar eu busnesau."
Ychwanegodd Darren:
"Nid Fenis na Barcelona mo’r Gogledd. Dydy twristiaid ddim yn heidio yma, rydyn ni eisiau i fwy o bobl ddod yma a gwario eu harian yn ein heconomi leol. Bydd treth twristiaeth yn tanseilio ein henw da fel lle sy’n croesawu pawb.”
Disgwylir i'r ymgynghoriad ddechrau ar 20 Mai a bydd yn para am gyfnod o naw wythnos, gan ddod i ben ar 22 Gorffennaf 2026.
Os bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn penderfynu mabwysiadu'r Ardoll cyn 30 Medi, gellid ei chyflwyno mor gynnar ag 1 Hydref 2027, yn dilyn y cyfnod rhybudd gofynnol o 12 mis.