Skip to main content

Darren Millar

Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

AS yn ymuno mewn dathliadau ar gyfer pen-blwydd Bore Coffi Macmillan yn 35 oed

  • Tweet
Dydd Gwener, 26 Medi, 2025
  • Newyddion Lleol
Macmillan

Ymunodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, â staff a gwirfoddolwyr o Gymorth Canser Macmillan yng Nghymru yn y Senedd yr wythnos hon i nodi digwyddiad codi arian blynyddol yr elusen, sef y Bore Coffi, ac mae'n annog pobl i gymryd rhan yn y digwyddiad codi arian eleni.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i glywed mwy am sut mae Macmillan yng Nghymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser, yn ogystal â chwrdd â gwirfoddolwyr, codwyr arian a gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig Macmillan.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Darren:

"Heddiw, (dydd Gwener 26 Medi) bydd pobl yn dod at ei gilydd ledled y wlad ar gyfer bore coffi Cymorth Canser Macmillan. Mae'r digwyddiadau hyn nid yn unig yn dod â phobl at ei gilydd i rannu bwyd a diod blasus, ond maen nhw hefyd yn codi arian gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser.

"Dros y blynyddoedd, rydw i wedi bod i lawer o ddigwyddiadau Bore Coffi Macmillan mewn gwahanol leoliadau yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd ac yng Nghaerdydd. Mae'n ffordd wych o ddod at ein gilydd, rhannu sleisen o gacen a phaned a chodi arian ar gyfer elusen - ac wrth gwrs mae 2025 yn flwyddyn arbennig wrth i’r elusen ddathlu ei phen-blwydd yn 35 oed!

"Rwy'n falch o helpu i gefnogi bore coffi Macmillan trwy roi gwybod i bobl am y digwyddiad codi arian pwysig hwn a'u hatgoffa nad oes rhaid i foreau coffi gael eu cynnal ar 26 Medi - gallant ddigwydd pryd bynnag y dymunwch, felly nid yw'n rhy hwyr i gymryd rhan.

"Cofrestrwch nawr yn www.macmillan.org.uk/coffee i gynnal Bore Coffi Macmillan ar unrhyw ddiwrnod sy'n addas i chi a helpu mwy o bobl â chanser i gael y gofal gorau sydd gan y DU i'w gynnig.

Mae pob ceiniog a godir mewn Bore Coffi yn helpu Macmillan i ddarparu cefnogaeth i bobl â chanser, sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed.

·       Gallai £30 helpu i redeg ein fforwm Cymunedol Ar-lein am 1 awr. Yn y cyfnod hwn, gall 80 o bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn y DU roi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i'w gilydd ar unrhyw beth sy'n ymwneud â chanser – o driniaethau, i ymdopi â bywyd bob dydd, i farwolaeth anwylyd.

·       Gallai £65 dalu am 100 copi o The Cancer Guide. Gall y llyfryn Macmillan hwn helpu rhywun sydd wedi cael diagnosis o ganser yn ddiweddar, a'i deulu, i ddeall mwy am ganser, ei driniaeth a'r help sydd ar gael.

·       Gallai £147 dalu am Gynorthwyydd Gwybodaeth a Chymorth Macmillan am 1 diwrnod, gan roi cyfle i bobl sy'n byw gyda chanser ofyn cwestiynau a thrafod eu pryderon.

 

You may also be interested in

More children from Armed Forces and veteran families now able to access support

Mwy o blant o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr bellach yn gallu cael gafael ar gymorth

Dydd Mawrth, 7 Ebrill, 2026
Fel eiriolwr brwd dros blant a theuluoedd y lluoedd arfog yng Nghymru, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion y bydd mwy o blant a phobl ifanc o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr yn gallu cael gafael ar help.Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ehangu'r diffi

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar. All rights reserved.
Powered by Bluetree