Mae angen uwchraddio cefnffordd yr A494 trwy Rhuthun.
Mae Lôn Fawr a Ffordd Corwen yn byrth i'r dref ac yn rhan o lwybr cylchol allweddol i draffig a thrigolion, ond mae rhannau o Lôn Fawr yn beryglus o gul ac mae angen ail-beiriannu'r gyffordd â Ffordd Corwen er mwyn gwella diogelwch.
Llofnodwch y ddeiseb hon i alw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i ledu'r Lôn Fawr a gwella'r gyffordd â Ffordd Corwen cyn gynted â phosib.