Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
Aelod o Senedd Cymru dros Orllewin Clwyd
Hanes o weithdredu...
Y tro cyntaf i Darren gael ei ethol i Senedd Cymru oedd yn 2007, ac erbyn hyn mae ar ei bedwerydd tymor.
Cyn cael ei ethol i'r Senedd, bu Darren yn gweithio fel rheolwr i elusen ryngwladol yn cefnogi Cristnogion sy’n cael eu herlid ar draws y byd. At hynny, bu’n gyfrifydd yn gweithio yn y diwydiannau adeiladu, cartrefi gofal a thelathrebu.
Ar ôl cael ei fagu yn Nhywyn, mae Darren bellach yn byw ym Mae Cinmel gyda'i wraig a'u dau blentyn, sy’n blant hŷn erbyn hyn.
Ym mis Rhagfyr 2024, etholwyd Darren yn unfrydol yn Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, a chymerodd swydd Arweinydd yr Wrthblaid.
Yn ystod ei gyfnod fel Aelod o Senedd Cymru mae Darren wedi bod yn gyfrifol am amryw o bortffolios yr wrthblaid, gan gynnwys Iechyd, Addysg, Llywodraeth Leol, y Cyfansoddiad, Gogledd Cymru, a Materion Rhyngwladol. At hynny, mae hefyd wedi gwasanaethu fel Prif Chwip y Ceidwadwyr Cymreig, a bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol y Senedd.
Yn 2000/2001 Darren oedd y maer ieuengaf yng Nghymru – mae Darren ar ddeall nad oes maer ifancach wedi bod, hyd yn hyn – pan oedd yn faer ar drefgordd Tywyn a Bae Cinmel. At hynny bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae Darren yn Gristion ymroddedig, yn ddarllenydd brwd ac yn seryddwr amatur.